Eluned Morgan yn debygol o ddod yn Brif Weinidog Cymru

Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Y gred yw bod o leiaf 19 o ASau Llafur yn cefnogi Eluned Morgan erbyn hyn

  • Cyhoeddwyd

Mae'n edrych yn debygol mai Eluned Morgan fydd arweinydd nesaf Llafur Cymru, a phrif weinidog benywaidd cyntaf Cymru.

Ddydd Llun fe gadarnhaodd ei bod eisiau olynu Vaughan Gething, ac mae ras arweinyddiaeth yn edrych yn annhebygol gan nad oes disgwyl i unrhyw aelod arall sefyll.

Dywedodd Ms Morgan y byddai’n cynnig platfform unedig gyda’i chyd-aelod o’r cabinet, Huw Irranca-Davies, yn rhedeg fel ei dirprwy.

Mae'r cyfnod lle mae modd enwebu rhywun ar gyfer yr arweinyddiaeth yn cau am 12:00 ddydd Mercher, ac fel y mae pethau ar hyn o bryd, bydd Ms Morgan yn cael ei hethol heb wrthwynebiad.

Mae'r ysgrifennydd iechyd yn dweud bod ganddi "gefnogaeth gref" gan fwyafrif y 30 o aelodau sydd gan y blaid yn y Senedd.

Mae'r cyn-brif weinidog, Mark Drakeford hefyd wedi datgan ei fod yn cefnogi Ms Morgan.

Y gred yw bod o leiaf 21 o ASau Llafur yn ei chefnogi erbyn hyn.

Fore Mawrth dywedodd Ken Skates ei fod yntau yn cefnogi Ms Morgan, gan gadarnhau na fyddai ef yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth ychwaith.

Ychwanegodd AS Llafur arall, Lee Waters ei fod yn disgwyl i Ms Morgan gael ei hethol yn ddiwrthwynebiad, ond ei fod yn teimlo y byddai'n "rhagrithiol" iddo ei henwebu nawr gan ei fod wedi dadlau o blaid cael cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth.

Disgrifiad,

Mewn cynhadledd i'r wasg ar faes y Sioe Fawr ddydd Llun, dywedodd Ms Morgan fod gan y blaid wersi i'w dysgu o'r ansefydlogrwydd diweddar wnaeth arwain at ymddiswyddiad Vaughan Gething.

Mynnodd y byddai'n adfer y berthynas rhwng y cyhoedd a Llafur Cymru.

Dywedodd nad oedd hi na Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, yn "perthyn i unrhyw garfan o fewn y blaid, dydyn ni heb ddewis ochr".

"Ry'n ni'n perthyn i draddodiad radical arbennig Llafur Cymru, sydd wedi siapio'n plaid a'n gwlad ers dechrau datganoli," meddai.

"Pe bawn yn cael fy ethol fel arweinydd nesaf Llafur Cymru, mae'n glir bod yn rhaid i ni ddysgu gwersi o'r wythnosau diwethaf."

Ychwanegodd ei bod hi'n "hen bryd" i fenyw arwain y wlad.

Disgrifiad o’r llun,

Huw Irranca-Davies fyddai dirprwy Eluned Morgan pe bai hi'n dod yn arweinydd

Wrth ymateb i feirniadaeth ynglŷn â'r ffordd y mae hi wedi arwain y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, dywedodd fod "y mwyafrif o bobl yn cael gwasanaeth gwych".

"Ond ry'n ni'n gwybod fod yna waith i'w wneud, a byddwn yn cynyddu ein hymdrechion yn y maes hwnnw os ydw i'n dod yn arweinydd."

Os daw cadarnhad mai Ms Morgan yw'r unig ymgeisydd i fod yn arweinydd, yna mae'n debygol y bydd Mr Gething yn camu o'r neilltu yn gynt na'r cynllun gwreiddiol - lle'r oedd disgwyl iddo wneud hynny ym mis Medi.

Cyn dod yn brif weinidog, byddai'n rhaid i arweinydd newydd Llafur Cymru gael eu cymeradwyo mewn pleidlais yn y Senedd - sydd ar gau ar hyn o bryd.

Mae'r BBC ar ddeall bod trafodaethau'n cael eu cynnal ynglŷn â chynlluniau posib i adalw'r Senedd yn gynnar.

Mae'n bosib i'r llywodraeth wneud cais i adalw'r Senedd i'r llywydd, os ydyn nhw'n teimlo fod hynny'n angenrheidiol. Y gred yw y byddai cais o'r fath yn cael ei dderbyn.

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am adalw'r Senedd, tra bod Plaid Cymru'n dadlau mai'r unig ffodd i adfer sefydlogrwydd yw drwy gynnal etholiad i'r Senedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

“Y nod yw cael undod, 'na beth sydd ishe ar hyn o bryd," meddai Carwyn Jones

Dywedodd y cyn prif weinidog Carwyn Jones ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth ei fod yn rhagweld "neb arall yn dod 'mlaen nawr".

Y peth cyntaf fydd Eluned Morgan angen ei wneud fel arweinydd y blaid, meddai, "yw sicrhau bod problemau sydd yn amlwg yn gyhoeddus o fewn y grŵp Llafur yn cael ei ddatrys".

“Y nod yw cael undod, 'na beth sydd ishe ar hyn o bryd. Does dim rhaid cael etholiad er mwyn 'neud hynny," dywedodd.

“Dydyn ni ddim yn gwybod eto faint o enwebiadau bydd cyn fory. Ond, wrth gwrs, ni’n gwybod os taw ond un enwebiad sydd, yna bydd 'na ddim cystadleuaeth.”