Lluniau: Dydd Gwener yn yr Eisteddfod

Tywydd hufen iâ!
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd y Cadeirio, daeth yr haul i ddisgleirio dros Barc Ynysangharad.
Betsan Haf Evans fu'n crwydro'r maes ar ran Cymru Fyw.

Bois y Pafiliwn yn gwneud y mwyaf o eiliad dawel cyn croesawu'r torfeydd i Seremoni Urddo yr Orsedd

Cefin Roberts yn arwain y canu yn Seremoni Urddo yr Orsedd

Cafodd Anne England - Merch Ynysagored - ei anrhydeddu am ei chyfraniad gwirfoddol helaeth i’r iaith Gymraeg ym Merthyr Tudful

Huw Llewelyn Davies yn wên o glust i glust yn ei wisg wen wrth orymdeithio gyda’r Orsedd

Betsan Llwyd, Ynyr Williams a'u merch Nanw Llwyd Williams. Cafodd Ynyr ei anrhydeddu gan yr Orsedd eleni am ei gyfraniad i fyd darlledu, diwylliant Cymru a'r Eisteddfod

Caffi Maes B yn orlawn yn ystod perfformiad Wigwam

Bethan Marlow a chriw ysgrifennu Chwalwyr Pensiliau, sy'n cynnwys lleisiau o'r gymuned LHDTC+, pobl ag anableddau ac ymgyrchwyr

Torf yn mwynhau Côr Meibion Pontypridd a Côr y Bryn ar Lwyfan y Maes

Carwyn Eckley yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Ag yntau'n 28 oed, mae'n un o'r ieuengaf i ennill y Gadair

Now, mab Iwan Huws, yn derbyn gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn ar lwyfan y Pafiliwn ar ran ei dad gydag aelodau eraill Cowbois Rhos Botwnnog
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
- Cyhoeddwyd6 Awst 2024
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024
- Cyhoeddwyd3 Awst 2024