Carcharu dyn am lofruddio cymar ei fab yn Llanelli

Richard JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Richard Jones wedi ei garcharu am o leiaf 20 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 50 oed wedi ei garcharu am oes ar ôl lladd cymar ei fab, am ei fod yn credu ar gam ei bod yn ceisio ei dwyllo.

Cafodd Sophie Evans, 30, ei chanfod yn gorwedd wyneb i lawr ac yn noeth ar lawr y gegin yn ei chartref yn Llanelli ar 5 Gorffennaf 2024.

Roedd ganddi nifer o anafiadau ac roedd hi wedi cael ei thagu.

Roedd Richard Jones o Borth Tywyn, Sir Gaerfyrddin, wedi cyfaddef i ddynladdiad ond fe wnaeth wadu llofruddiaeth.

Ond diwedd Ionawr fe'i gafwyd yn euog o lofruddiaeth gan reithgor.

Dywedodd y Barnwr Geraint Walters fod Jones wedi cynnal "ymosodiad ffyrnig" ar y dioddefwr, cyn mynd i fecws tra roedd hi'n gorwedd yn farw am oriau.

Cafodd ei garcharu am o leiaf 20 mlynedd.

Sophie EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sophie Evans, 30, ei chanfod yn ei chartref ar Ffordd Bigyn

Clywodd y llys yn y gorffennol bod Ms Evans, 30, newydd ddychwelyd adref i Ffordd Bigyn ar ôl mynd a'i dau o blant i'r ysgol pan ddaeth Jones i'w chartref.

Fe welodd y rheithgor negeseuon rhwng Richard Jones a'i gyn-gymar Tracey Thompson ble cyfeiriodd at ei fab, Jamie Davies, a Ms Evans fel "lladron twyllodrus".

Yn ystod cyfweliadau gyda'r heddlu dywedodd Jones ei fod "wedi pendroni ynghylch y twyll 'ma", gan ychwanegu nad oedd "yn gallu cofio popeth - ro'n i'n eratig".

Dywedodd ei fod yn cofio mynd i dŷ Ms Evans ar fore'r llofruddiaeth i edrych ar ddraeniau, gan ychwanegu ei fod wedi "colli ei ben" pan na ddywedodd hi "ddim" am y "sgam".

Dywedodd Jones wedyn nad oedd yn cofio unrhyw beth am yr ymosodiad, heblaw ei fod "lawr yn y parc gwledig" oriau'n ddiweddarach.

Dywedodd yr erlynydd Mike Jones wrth y rheithgor fod gan y diffynnydd "trwy ei gyfaddefiad ei hun, ffiws byr hanesyddol", ac ar ddiwrnod y digwyddiad ei fod "wedi colli ei dymer".

Cafodd ei arestio yn ddiweddarach yr un diwrnod ar ôl cyfnewid nifer o negeseuon testun a galwadau ffôn gyda theulu a ffrindiau.

'Bywydau wedi eu chwalu'

Cyn y dedfrydu fe ddarllenodd chwaer Sophie Evans ddatganiad ar ran y teulu i'r llys.

Dywedodd mai Sophie oedd "calon y teulu" a bod y golled wedi eu newid "am byth".

"Cafodd bywyd ei thad ei chwalu'r diwrnod y collodd ei ferch.

"Mae ein bywydau wedi cael eu dinistrio'n llwyr gan y weithred greulon yma.

"Roedd hi'n fam gariadus i ddwy ferch fach yr oedd hi'n ei charu'n ddwfn ac mae'n rhaid iddyn nhw fyw hebddi hi nawr.

"Mae'r dyn yna wedi chwalu teulu a phob un yn unigol."

Ffordd Bigyn
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod Richard Jones yn ymweld yn aml â'r cartref roedd Sophie Evans yn ei rannu â'i fab, Jamie Davies

Wrth ddedfrydu dywedodd y barnwr: "Roedd hwn yn ymosodiad brawychus ar ddynes yn ei chartref ei hun.

"Roedd hyd yr ymosodiad yn fyr ond roedd y grym a ddefnyddiwyd gennych yn golygu bod Sophie wedi sylweddoli bod ei bywyd mewn perygl.

"Fe wnaethoch chi adael yr eiddo heb wneud unrhyw alwadau i weld a fyddai modd achub ei bywyd.

"Aethoch chi oddi yno yn bwyllog a mynd o gwmpas eich busnes dyddiol o archebu cerdyn banc newydd a phrynu mewn becws. Wnaethoch chi ddim meddwl amdani hi am eiliad.

"Roedd hi'n farw am oriau."

Cafodd Jones ddedfryd oes, a bydd dan glo am o leiaf 20 mlynedd.