Aduniad Hapus Dyrfa: "Oedd o'n gariadlon iawn"

[Chwith i Dde] Claire Williams, Aled Pughe, Caryl Parry Jones, Arwel Davies
  • Cyhoeddwyd

Roedd hi'n noson chwerwfelys ar raglen Caryl ar BBC Radio Cymru pan ddaeth cast y rhaglen gomedi-sefyllfa, Hapus Dyrfa, yn ôl at ei gilydd wedi dros 30 o flynyddoedd.

Rhaglen gomedi am deulu'r Johns o Gwm Gwendraeth oedd Hapus Dyrfa: Gareth, y tad a oedd yn filfeddyg a Menna, y fam a oedd yn athrawes gyda'u tri o blant, Dafydd, Rhys ac Elin a heb anghofio'u cymydog lliwgar Eric.

Cafodd y gyfres ei hysgrifennu gan Caryl Parry Jones a Tony Llewelyn a'i darlledu'n gyntaf yn 1990.

Ymunodd Arwel Davies (Dafydd), Aled Pughe (Rhys) a Claire Williams (Elin) â Caryl Parry-Jones yn y stiwdio yn Sgwâr Canolog Caerdydd i hel atgofion am y comedi o ddechrau'r 90au.

Ond yng nghanol yr holl atgofion a'r hwyl roedd un presenoldeb mawr ar goll, sef y diweddar Dewi 'Pws' Morris.

Dewi 'Pws' Morris gyda Caryl Parry Jones mewn pennod o Hapus Dyrfa (1990)Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dewi 'Pws' Morris gyda Caryl Parry Jones mewn pennod o Hapus Dyrfa

Dewi oedd yn actio rhan Gareth, y tad, yn Hapus Dyrfa ac ar ddechrau'r sgwrs dywedodd Caryl a chwaraeodd ran Menna, ei wraig, yn y gyfres, "'Dan ni gyd yn ei golli fo'n fawr iawn."

"Oedd e'n garedig, oedd e'n gyfeillgar..." dyweddodd Claire Williams, a oedd ond yn chwech oed pan ddechreuodd y gyfres.

"Oedd e'n bopeth. Oedd e jyst yn berson lyfli o'r munud cyntaf chi'n cwrdd â fe, oedd e ddim yn newid, oedd e'n ffantastig."

Mae Claire bellach yn fargyfreithwraig yng Nghaerdydd, yr unig un o'r tri phlentyn i beidio â dilyn gyrfa actio.

Nododd Caryl fod gan Aled Pughe, oedd yn actio'r plentyn canol direidus, rapport da gyda Dewi am y rheswm yna – eu bod nhw'n cael bod yn ddireidus gyda'i gilydd. Wrth gofio, dywedodd Aled:

"O'n i'n cael cymaint o hwyl a sbri, a Dewi wrth gwrs fel cael comic stand-yp gyda ni. Ddim yn stopio chwarae. Oedd e fel bod pedwar o blant gyda ti. Oedd e'n creu awyrgylch ffantastig i ni fel plant."

"Mae e'n ddiwedd cyfnod," ychwanegodd Arwel.

Caryl Parry Jones, Aled Pughe ac Arwel Davies mewn pennod o Hapus Dyrfa (1990)Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Menna yn ceisio setlo ffrae rhwng Dafydd a Rhys ym mhennod Y Cawlach o Hapus Dyrfa

Cymerodd y pedwar funud i gofio am Carys Hall Evans hefyd, cynhyrchydd y gyfres, a fu farw yn 2009 gan ddweud, "Roedd hi'n berson anhygoel, urddasol iawn.

"Roedd Carys yn egwyddorol iawn, ac oedd hi'n deg iawn iawn, ac oedd hi'n gwneud yn siŵr bod pob un cwlwm yn cael ei gloi. Doedd 'na ddim loopholes o gwbl os oedd Carys o gwmpas."

Carys oedd yr un fu'n crwydro Cymru efo Caryl i gastio'r plant, a buan iawn mae'r sgwrs yn troi at y broses honno, eglurodd.

"Dwi'm yn gwybod faint o blant welson ni achos oedd rhaid i ni chwilio am dri o blant, ac oedd rhaid i'r tri fod o anian gwahanol, doedd?

"Oedden ni isio i Dafydd i fod yr un sensitif, y mab hynaf cyfrifol. O'n ni isio Rhys i fod y plentyn canol, yr ail blentyn drygionus ond hoffus. A wedyn, y ferch fach ddoeth sydd yn gallu dweud pethau mawr, sydd yn gallu gofyn y cwestiynau lletchwith, sydd yn gallu bod yn yn hŷn na'i hoedran."

Arwel Davies fel DafyddFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Arwel Davies fel Dafydd

Un o'r penodau sydd wedi cael ei gweld amlaf yw'r bennod Nadolig. Roedd honno'n gynhyrchiad arbennig a hefyd y bennod olaf un o Hapus Dyrfa.

Mae Arwel yn ei chofio'n benodol oherwydd yr actorion gwadd oedd ynddi:

"Oedd e'n fwy o gynhyrchiad yn sicr, ac oedd Rhys Parry-Jones ynddo fe a Sara McGaughey."

Wedi i'r gyfres ddod i ben, ychydig wyddai Arwel y byddai'n gweithio gyda'r ddau actor eto ar Pobol y Cwm – un tro fel Alun, gŵr ifanc oedd yn gaeth i gyffuriau, ac yn fwy diweddar fel Eifion. Aeth yn ei flaen i rannu atgof o fod ar y set Nadolig yn ffilmio:

"Dwi'n cofio un tro, Claire yn cerdded o gwmpas yn canu cân oedd hi wedi'i dysgu gan Dewi Pws a Caryl Parry Jones. Oedd Rhys-Parry Jones fel 'Beth y'ch chi'n dysgu i'r plant 'ma?'

"Galla' i ddim canu hi ar yr awyr yn anffodus!"

Claire Williams ac Aled Pughe fel Elin a RhysFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Claire Williams ac Aled Pughe fel Elin a Rhys yn cynllwynio i wneud ychydig o arian poced

Ychwanegodd Aled, sydd wedi mynd yn ei flaen i actio mewn cyfresi fel Stella a sydd nawr yn actio'r tad yn Deian a Loli:

"Fi'n mynd yn emosiynol yn gwylio'r Christmas special yna achos taw hwnna oedd y diweddglo. Mae'r credits ar y diwedd yn wahanol i'r rhai arferol. Mae 'na rywbeth special ambyti e.

"Hwnna sydd wedi cael ei ailadrodd, mae hwnna wedi bod ar y teledu cwpl o weithiau. Mae 'mhlant i wedi gweld hwnna hefyd, so ni wedi gallu cyflwyno nhw i'r gyfres yn fwy na jyst dangos lluniau. Mae'n 'neud fi'n eitha' emosiynol y bennod yna."

Ategodd Caryl y teimlad:

"Mae o gyd yn emosiynol wrth edrych 'nôl, yndydi, achos oedd o'n amser mor gartrefol, annwyl.

"Oedd o'n gariadlon iawn yn doedd, yr holl beth."

Gallwch glywed y sgwrs gyfan rhwng Caryl a chast Hapus Dyrfa ar BBC Sounds.

"Mae o gyd yn emosiynol wrth edrych 'nôl"

Aduniad Hapus Dyrfa ar Caryl