Dargyfeirio awyren oedd yn hedfan o Gaerdydd, ar ôl taro aderyn

Awyren G-TAWYFfynhonnell y llun, AirTeamImages
Disgrifiad o’r llun,

Glaniodd yr awren, G-TAWY, yn ddiogel am tua 17:30

  • Cyhoeddwyd

Mae awyren oedd yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd i Cyprus wedi gorfod dargyfeirio i Birmingham, ar ôl taro aderyn.

Roedd yr awyren, math Boeing 737, ar hediad TOM 6754 yn cael ei gweithredu gan gwmni TUI ac roedd yn codi ar adeg y digwyddiad - am tua 16:30 ddydd Sul.

I ddechrau, roedd y peilotiaid yn cylchdroi Bae Abertawe - tua 3,000 troedfedd oddi wrth y ddaear, cyn codi ac anelu tuag at orllewin canolbarth Lloegr.

Llosgodd yr awyren danwydd mewn cyfres o orbitau, cyn glanio ym Maes Awyr Birmingham, lle cafodd y teithwyr a'r criw eu glanio'n ddiogel.

Roedd offer diffodd tân a cherbydau brys eraill yn disgwyl am yr awyren wrth iddi gyrraedd y rhedfa, gan achosi rhywfaint o oedi yn Birmingham.

Dywedodd TUI Airlines: "I gadarnhau, ni fethodd unrhyw injan.

"Bu gwrthdrawiad ag aderyn ar ôl esgyn ac roedd y dargyfeiriad a ddilynodd yn weithdrefn ragofalus arferol."

Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd eu bod yn "ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud âg hediad TOM6754 o Gaerdydd i Paphos".

"Diogelwch ein teithwyr yw ein prif flaenoriaeth. Gwyrodd yr awyren i Faes Awyr Birmingham (BHX) a glaniodd yn ddiogel am tua 17:30."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig