'Hunllef' newidiadau byr-rybudd i gludiant ysgol i Aberystwyth

Dywedodd Heulwen Ann Davies - yma gyda'i merch Elsi - bod rhieni wedi dod at ei gilydd nos Fawrth i drefnu rota i gasglu plant o'r ysgol oherwydd y newidiadau
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni o ardal Machynlleth sydd â phlant yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth yn dweud eu bod wedi "methu cysgu'r nos", ar ôl cael gwybod ar y noson cyn dechrau'r tymor bod newid i drefniadau cludiant bws.
Cyn hyn roedd y disgyblion, sydd yn teithio o du allan i'w dalgylch ym Mhowys i gael eu haddysg yng Ngheredigion, wedi bod yn talu i ddefnyddio gwasanaeth bws ysgol cwmni Lloyds Coaches.
Ond cyhoeddodd y cwmni ar y cyfryngau cymdeithasol brynhawn Mawrth - y diwrnod cyn i'r plant ddychwelyd i'r ysgol - na fyddai hynny'n bosib o hyn ymlaen.
Maen nhw wedi egluro i BBC Cymru Fyw fod hynny oherwydd "cynnydd yn nifer y myfyrwyr o fewn Ceredigion", ac felly bod plant o du allan i ddalgylch o ardal Powys yn gorfod dal bws cyhoeddus "am nad oes seddi gwag ar y bws ysgol pwrpasol".
Dywedon nhw fod yr amseru munud olaf oherwydd eu bod wedi ceisio canfod datrysiad, ond eu bod heb lwyddo i wneud hynny.
Dywedodd Cyngor Ceredigion "nad oes unrhyw newid wedi'i wneud i'w contractau ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth i ddisgyblion sy'n gymwys i drafnidiaeth i Ysgol Penweddig".
Ychwanegwyd nad yw newidiadau Lloyds Coaches yn ardal Machynlleth "yn rhan o'r contractau gyda Cyngor Sir Ceredigion".
'Dim ffordd o gael nhw adref'
Mae merch 13 oed Heulwen Ann Davies, Elsi, yn un o'r rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y newidiadau byr-rybudd.
Dywedodd Ms Daves ei bod "methu credu bod hyn wedi digwydd dros nos, mae jest yn cael cymaint o effaith ar fywydau ni fel teuluoedd".
"Plant ydyn nhw ar ddiwedd y dydd - tase'r cwmni bysus ddim wedi rhoi'r post yna i fyny neithiwr [nos Fawrth] fase'n plant ni wedi cael eu gadael ar ochr y ffordd bore 'ma," meddai.
Eglurodd y byddai angen i'r plant ddal y bws cyhoeddus o Fachynlleth hanner awr ynghynt o hyn ymlaen, gan gerdded milltir ar ôl cyrraedd canol Aberystwyth i'r ysgol.
"Y broblem ydi wedyn does dim ffordd o gael nhw adref, achos dydi'r bws cyhoeddus ddim yn mynd ar amser cyfleus.
"Mae'n golygu bod yn rhaid i blant Penweddig aros rownd dre' Aberystwyth am awr ar ben eu hunain ar ôl ysgol yn ganol dre' - a plant ydyn nhw."

Mae nifer o blant yn teithio o ardal Machynlleth dros y ffin i Geredigion i gael eu haddysg yn Ysgol Gyfun Penweddig, ac wedi bod yn talu am wasanaeth bws ysgol
Yn ôl Ms Davies mae hi wedi cysylltu gyda chwmni Lloyds Coaches, sydd wedi dweud wrthi nad oes lle i'r plant ar y bws.
Dywedodd nad oedd hi'n disgwyl i Gyngor Ceredigion dalu i blant o Bowys fynd i'r ysgol, ond bod y ddarpariaeth wedi bod ar gael iddyn nhw hyd yma, gyda'r teuluoedd wedi bod yn talu fesul dydd i'r cwmni bysiau am y gwasanaeth.
Ychwanegodd bod rhai wedi dod at ei gilydd yn y pentref nos Fawrth i drefnu rota i gasglu'r plant o'r ysgol bob dydd.
"Dwi jest ddim yn deall be' 'dan ni fod i 'neud," meddai.
"Yn y cyfamser mae'n rhaid i rieni ffeindio ffordd o rannu liffts, ond mae teithio nôl ac ymlaen i Aberystwyth ddwywaith y dydd dros 80 milltir.
"Mae'r gost i ddechrau, ond fwy na hynna yr amser - pwy sy'n mynd i allu gweithio oriau o 10:00 tan 14:00? Dim lot o bobl.
"Tase ni'n gwybod hyn ddechrau'r gwyliau 'sen ni wedi gallu gweithio fo allan.
"Does dim un ohonon ni wedi cysgu neithiwr, ac ambell un yn dweud nad ydi eu plant nhw wedi cysgu."
'Beth dan ni fod i'w wneud?'
Un arall sydd wedi wynebu problemau ar ddechrau'r tymor newydd ydi James January-McCann o bentref Derwen Las.
Mae ei fab 11 oed, Osian yn dechrau ym Mlwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Penweddig am y tro cyntaf.
Clywodd nos Fawrth am y neges ar gyfryngau cymdeithasol oedd yn golygu newidiadau i'r trefniadau teithio.
"Roedden ni'n edrych ymlaen i gael noson hamddenol, dathlu, cael pob dim yn barod, a wedyn oedd jest yn troi allan yn noson hunllefus, llawn stress," meddai.
Fe wnaeth cymydog gludo Osian at y bws cyhoeddus ym Machynlleth fore Mercher, ac yna roedd y plant yn cerdded i'r ysgol o orsaf fysiau Aberystwyth.
"Dydi fy mab ddim yn gyfarwydd iawn ag Aberystwyth," meddai Mr January-McCann.
"Pan wnaeth o a'i ffrind gyrraedd Aberystwyth roedden nhw wedi edrych ar ei gilydd a dweud 'pa ffordd mae'r ysgol, lle dan ni'n mynd rwan?', a doedden nhw ddim yn gwybod."
Dywedodd bod ei fab wedi cael addysg gynradd yng Ngheredigion hefyd, a bod ei holl ffrindiau yn symud gydag ef i Ysgol Gyfun Penweddig, ac felly nad ydyn nhw eisiau gorfod newid ysgol oherwydd y trefniadau cludiant.
"O'dd y bws ysgol yn berffaith i ni, oedd o'n mynd i fod yn gaffaeliad mawr, ond rŵan beth dan ni fod i'w wneud?"

Dywedodd Lloyds Coaches fod y newid oherwydd "cynnydd yn nifer y myfyrwyr o fewn Ceredigion"
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Lloyds Coaches wrth BBC Cymru Fyw: "Does yr un bws ysgol wedi'i ganslo ac rydyn ni'n dal i weithredu'r holl drafnidiaeth ysgol ar gyfer yr awdurdod lleol.
"Yr unig newid, sydd wedi digwydd o ganlyniad i gynnydd yn nifer y myfyrwyr o fewn Ceredigion, ydy bod plant o du allan i ddalgylch Ceredigion sy'n teithio o ardal Powys, nawr yn gorfod dal bws cyhoeddus am nad oes seddi gwag ar y bws ysgol pwrpasol.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cydymffurfio â rheolau ac mae gennym ni ddyletswydd i beidio â chario mwy na chapasiti'r cerbyd.
"Does dim newid i ddeiliaid pasys yn ardal Ceredigion... ac mae cost tocyn ar gyfer myfyrwyr o du allan i'r dalgylch yr un peth â'r hyn roedden nhw'n ei dalu o'r blaen.
"Yr unig newid yw i ddisgyblion o du allan i'r dalgylch, sy'n teithio hyd at 18 milltir i ysgol yng Ngheredigion."
Dywedon nhw fod yr amseru munud olaf oherwydd eu bod wedi "gwneud popeth o fewn ein gallu i ganfod datrysiad gyda'r adnoddau (gyrwyr a cherbydau) oedd gennym ni".
"Yn anffodus, doedd dim modd dod o hyd i ddatrysiad."
'Dim newid' i gontractau'r cyngor sir
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion "nad oes unrhyw newid wedi'i wneud i'w contractau ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth i ddisgyblion sy'n gymwys i drafnidiaeth i Ysgol Penweddig ag Ysgol Penglais".
Ychwanegodd nad yw darpariaeth gyhoeddus Lloyds Coaches yn ardal Machynlleth yn rhan o gontractau'r cwmni gyda Chyngor Ceredigion.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2024