Dim 'Dydd y Farn' i ranbarthau rygbi Cymru y tymor nesaf

Scarlets yn erbyn y DreigiauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

28,328 o bobl oedd yn Stadiwm Principality ar gyfer y 'Dydd y Farn' diweddaraf ym mis Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Ni fydd gemau 'Dydd y Farn' yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality y tymor nesaf.

'Dydd y Farn' yw'r enw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiad blynyddol ble mae dwy gêm ddarbi rhwng y rhanbarthau Cymreig yn cael eu cynnal yn yr un lleoliad ar yr un dyddiad.

Mae'r Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) - sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Rygbi Cymru a'r pedwar rhanbarth - wedi cadarnhau na fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn 2026.

Dywedodd y PRB mewn datganiad y byddai saib yn 2026 yn rhoi cyfle iddyn nhw "ailedrych ar ddigwyddiad sydd llawn potensial".

Cafodd y 'Dydd y Farn' cyntaf ei gynnal yn 2013, ac fe wnaeth y digwyddiad ddenu torf o 68,000 i Stadiwm Principality yn 2016.

Ond mae ei boblogrwydd wedi cilio dros y blynyddoedd, gyda 28,328 yn y stadiwm i wylio'r gemau diweddaraf ym mis Ebrill.

Dyma'r dorf leiaf ar gyfer 'Dydd y Farn' yn y stadiwm cenedlaethol, ond roedd 8,000 yn llai o bobl yn bresennol pan gafodd y digwyddiad ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn 2024.

Daeth y cyhoeddiad wrth i drefn gemau'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig y tymor nesaf gael ei gyhoeddi.

Fe fydd y tymor yn dechrau ar benwythnos olaf mis Medi gyda'r Dreigiau yn teithio i Ulster ar nos Wener, 26 Medi.

Fe fydd Caerdydd yn croesawu'r Lions, y Scarlets yn wynebu Munster gartref a'r Gweilch yn teithio i Dde Affrica i herio'r Bulls ar ddydd Sadwrn, 27 Medi.