Undeb Rygbi Cymru yn cael eu cyhuddo o dactegau bwlio

Mae'r Gweilch a'r Scarlets wedi cyhuddo'r undeb o wneud tro pedol a chreu "rhagor o ansicrwydd yn ein gêm"Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweilch a'r Scarlets wedi cyhuddo'r undeb o wneud tro pedol a chreu "rhagor o ansicrwydd yn ein gêm"

  • Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael eu cyhuddo o "dactegau bwlio" ar ôl cyhoeddi na fydd y pedwar rhanbarth yn cael eu hariannu'n gyfartal.

Mae penaethiaid yr undeb yn dweud eu bod bellach yn bwriadu gweithredu system ariannu dwy haen newydd.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur Carolyn Harris fod gweithredoedd yr undeb yn "hollol annerbyniol".

Mae'n eu cyhuddo o fethu ag ateb "cwestiynau teg" am ddyfodol clybiau.

Nid yw'r undeb wedi cadarnhau na gwadu a yw torri tîm o'u haen broffesiynol yn rhan o'u cynlluniau.

Dywedodd llefarydd eu bod nhw'n "croesawu ymgysylltiad â'r ASau lleol".

Daw'r Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) - sy'n sail i gêm broffesiynol Cymru - i ben yn 2027.

Yr oedd i fod i gael ei ddisodli gan gytundeb pum mlynedd newydd nad yw'r Gweilch na'r Scarlets wedi'i arwyddo.

Dydi'r ddau ranbarth yn y gorllewin ddim yn hapus gyda chynnwys y cytundeb, gyda phenderfyniad URC i gamu mewn ar ôl i Rygbi Caerdydd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr ymhlith y "materion allweddol" sy'n achosi pryder.

Roedd yr undeb wedi rhoi tan 8 Mai i'r rhanbarthau arwyddo'r cytundeb newydd, ond dim ond y Dreigiau a Rygbi Caerdydd sydd wedi gwneud hynny.

AS yn 'wirioneddol siomedig'

Mae'r cytundeb newydd, sy'n cynnwys cynnydd mewn cyllideb o hyd at £6.5m o'i gymharu â'r £4.5m presennol, yn parhau tan 2029.

Mae'n un o elfennau allweddol cynllun hirdymor Undeb Rygbi Cymru o dan eu strategaeth 'Cymru'n Un'.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Scarlets a'r Gweilch: "Rydyn ni wedi gofyn i URC gynnig rhagor o eglurder ynglŷn â'r berchnogaeth o Gaerdydd ac i sicrhau nad ydi'r clybiau annibynnol dan anfantais."

Mae'r Gweilch a'r Scarlets hefyd wedi cyhuddo'r undeb o wneud tro pedol a chreu "rhagor o ansicrwydd yn ein gêm".

Carolyn Harris
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r tactegau bwlio caled hyn gan Undeb Rygbi Cymru yn gwbl annerbyniol," meddai Carolyn Harris

Fore Mawrth, dywedodd Carolyn Harris, dirprwy arweinydd Llafur Cymru ac AS Castell-nedd a Dwyrain Abertawe, wrth y BBC: "Rwy'n wirioneddol siomedig yn Undeb Rygbi Cymru ac rwyf fi, a fy nghyd-ASau yn y rhanbarth, i gyd yn bwriadu dwyn pwysau ar yr undeb i ddefnyddio synnwyr cyffredin oherwydd ni allwn golli'r Scarlets na'r Gweilch.

"Nid yw'n ymwneud â'r gêm yn unig, er mor bwysig yw'r gêm, mae'n ymwneud â'r balchder yn y dref, yn y tîm, ond mae hefyd yn ymwneud â'r gwaith cymunedol pwysig iawn y mae'r timau hyn yn ei wneud.

"Maen nhw'n darparu gweithgareddau ac yn bwydo plant. Rwy'n gwybod oherwydd fy mod i'n gweithio gyda nhw ar y pethau hyn.

"Rydym wrthi'n ysgrifennu llythyr cryf ac rydym yn mynnu cyfarfod.

"Nid fi yn unig ond pob AS waeth beth fo'u cysylltiad gwleidyddol, ar draws y ddau ranbarth, fel eu bod nhw'n deall dyfnder y teimlad nid yn unig ymhlith ein hetholwyr a'r timau ond gan y cynrychiolwyr gwleidyddol sy'n teimlo bod hwn yn benderfyniad gwael iawn, iawn.

"Mae'r tactegau bwlio caled hyn gan Undeb Rygbi Cymru yn gwbl annerbyniol."

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru: "Byddem yn croesawu ymgysylltiad â'r ASau lleol ac yn edrych ymlaen at y drafodaeth."