Cystadleuydd RuPaul eisiau rhoi 'llwyfan' i'r iaith Gymraeg

Dyma Catrin Feelings yn ei gwisg drag - sy'n debyg i'r wisg draddodiadol Gymreig
- Cyhoeddwyd
Mae un o gystadleuwyr y rhaglen boblogaidd RuPaul's Drag Race UK yn awyddus i roi "hwb" a "llwyfan" i'r Gymraeg.
Mae Catrin Feelings o'r Cymoedd yn ymddangos ar y gyfres ddiweddaraf, ac wedi creu dipyn o argraff yn barod.
Catrin feelings, neu Ellis Lloyd Jones, 27 o Dreorci, yw'r ail Gymro Cymraeg i fod yn rhan o'r gyfres - gan ddilyn Charlie Lindsay o'r Bala.
Cyn gwneud enw iddo'i hun ar TikTok - ble mae ganddo 220,000 o ddilynwyr - fe astudiodd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd ei fod yn brofiad "swreal" i fod yn rhan o raglen oedd mor bwysig iddo wrth gychwyn ar ei daith yn y byd drag.

Fe wisgodd Catrin Feelings wisg sy'n ymdebygu i genhinen yn un o'r penodau
Fe wnaeth Catrin wylio'r bennod gyntaf mewn parti gwylio yn Mary's yng Nghaerdydd ar 25 Medi.
Dywedodd fod y criw a oedd yno wrth eu boddau ac yn cymeradwyo pob tro yr oedd yn siarad Cymraeg ar y rhaglen.
Ychwanegodd ei fod yn deimlad da i "gynrychioli Cymru".
Mae Catrin wedi bod yn gystadleuydd poblogaidd gyda'r beirniaid hefyd, gan gyrraedd y grŵp ar y brig yn ystod y ddwy bennod agoriadol.
'Llysgennad i Gymru'
Dywedodd RuPaul fod Catrin "yn teimlo fel llysgennad i Gymru", gan ychwanegu fod ganddi "bersonoliaeth a all werthu unrhyw beth i chi - mae'n garismatig".
Dywedodd Catrin ei bod yn falch o dderbyn y fath sylwadau cadarnhaol.
"Dwi wastad wedi mwynhau perfformio, dwi wastad wedi mwynhau gwisgo i fyny," meddai.
Fe wnaeth Catrin wisgo gwisg a oedd yn cynrychioli Cymru yn y bennod agoriadol.
"Ro'n i eisiau cerdded mewn a bod fel, 'dyma'r drag o le dwi'n dod."
- Cyhoeddwyd3 Mai 2023
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd27 Awst 2022
Fe ddaeth cymeriad Catrin i fodolaeth ar ôl i Ellis gychwyn "chwarae o gwmpas gyda drag yn 2018" ar ôl symud i ffwrdd i'r brifysgol, a chychwyn defnyddio TikTok yn ystod y pandemig.
"Ar ôl y cyfnod clo, fe wnaeth rhywbeth ddisgyn i'w le yn fy ymennydd - ma' bywyd yn fyr, fe all rhywbeth fel 'na ddigwydd eto felly ro'n i eisiau gwneud rhywbeth gyda'm mywyd," meddai.
Yna, aeth ati i berfformio yn nosweithiau "Dragling night" yn y Queer Emporium yng Nghaerdydd lle mae perfformwyr drag yn gwneud eu gigs cyntaf.

Dywedodd Catrin Feelings ei bod eisiau i'w gwisg agoriadol ddangos ei bod yn dod o'r sîn ddrag yng Nghaerdydd
Ond o le ddaeth yr enw drag Catrin Feelings?
Dywedodd Catrin fod yr enw wedi dod o eiriau un o ganeuon y band Little Mix.
Fe esboniodd: "It goes 'ooh la la, ooh la la, I'm catching feeling.' Ac ro'n i'n meddwl, mae hwnna'n swnio fel maen nhw'n dweud Catrin Feelings.
"Pan mae'n dod i enwi'ch hunan, y mwyaf unigryw - y gorau," meddai.
Dywedodd er ei fod wedi bod ychydig yn anodd dod i 'nabod ei chyd-gystadleuwyr ar y rhaglen, fod pawb "wedi dod mor agos" ers gadael y gystadleuaeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.