Pryderon am 'ddiffyg gwybodaeth' darpar gadeirydd corff amgylchedd

Dywedodd Nilesh Sachdev ei fod wedi symud i Fryste yn ddiweddar "sydd ond awr i ffwrdd"
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau o'r Senedd wedi cwestiynu a ydy'r dyn sydd wedi ei enwebu fel cadeirydd corff amgylcheddol Cymru yn gwybod digon am y genedl.
Fe wnaeth y rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor newid hinsawdd gefnogi penodi Nilesh Sachdev yn gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Ond roedd ganddyn nhw bryderon "mewn nifer o feysydd", gan gynnwys ei "ddiffyg gwybodaeth a phrofiad o weithio yng Nghymru".
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n "ystyried yr adroddiad yn ofalus" cyn gwneud penderfyniad terfynol ar ei benodiad.
Yn y pwyllgor, dywedodd Mr Sachdev fod ganddo rai "cysylltiadau" â Chymru drwy ei deulu a'i waith.
Dywedodd ei fod wedi "adeiladu y rhan fwyaf o siopau Tesco a Sainsbury's y byddwch chi'n eu gweld o gwmpas Cymru".
Dywedodd hefyd ei fod wedi symud i Fryste yn ddiweddar "sydd ond awr i ffwrdd", a'i fod eisiau "chwarae rhan mewn cymuned rwy'n ei pharchu'n fawr ac yn hoff iawn ohoni".
'CV trawiadol'
Dewiswyd Mr Sachdev gan y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies fel yr ymgeisydd roedd yn ei ffafrio ar gyfer y swydd, sy'n talu £67,600 am o leiaf 104 diwrnod o waith y flwyddyn.
Ar ôl ei holi, nododd y pwyllgor bod ganddo "CV trawiadol" a'i fod wedi ymwneud a materion amgylcheddol am gyfnod hir.
Mewn adroddiad mae'r pwyllgor yn dweud bod ei gefndir yn y sector cyhoeddus a phreifat "yn awgrymu bod ganddo'r profiad rheoli a llywodraethu ar gyfer rôl o'r statws hwn".
Ond mae hefyd yn galw am "ailasesiad cyflym o'i ymrwymiadau presennol" i wneud yn siŵr y gall neilltuo digon o amser i CNC.
Mae'r cyn-uwch weithredwr yn Tesco a Sainsbury's eisoes yn dal swyddi eraill, gan gynnwys cadeirydd East West Rail, sy'n adeiladu llinell newydd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Bydd yn dod yn gadeirydd Prifysgol Warwick fis nesaf.
- Cyhoeddwyd21 Mai
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2023
"Roedd y pwyllgor hefyd yn pryderu am ei ddiffyg gwybodaeth a phrofiad o weithio yng Nghymru a gwead cymdeithasol y wlad, ei phobl a'i sefydliadau," meddai'r adroddiad.
"Mae hon yn rôl heriol, ac rydym o'r farn bod rhaid i Mr Sachdev barhau i ymgyfarwyddo â'r ecosystem y bydd yn gweithio ynddi."
Mewn holiadur, dywedodd Mr Sachdev ei fod yn hyderus y gallai neilltuo'r amser a'r ffocws sy'n angenrheidiol i gyflawni cyfrifoldebau'r cadeirydd.
Er gwaethaf y pryderon fe wnaeth mwyafrif y pwyllgor benderfynu, "ar ôl pwyso a mesur", y dylid cymeradwyo'r penodiad.
Croesawodd Llywodraeth Cymru "graffu trylwyr" y pwyllgor.
"Yn dilyn y gwrandawiad cyn-benodi, bydd y dirprwy brif weinidog yn ystyried adroddiad y pwyllgor yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol ar y penodiad," meddai llefarydd.
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reoli coedwigoedd, ymateb i lifogydd ac ymdrin â llygredd.
Y mis diwethaf, cododd y pwyllgor bryderon difrifol ynghylch penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i ymateb i lai o ddigwyddiadau llygredd categori isel.
Ar y pryd dywedodd CNC ei fod wedi mynd trwy "gyfnod sylweddol o newid a her i'n sefydliad, wrth i ni fyw o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni".
Cysylltwyd â Mr Sachdev i ofyn am ei ymateb.