Lidl yn gwadu bod cynghorydd Reform wedi agor siop yn swyddogol

David Thomas yn y canolFfynhonnell y llun, Facebook/David Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tri chynghorydd Reform, gan gynnwys David Thomas yn y canol, eu gweld y tu allan i Lidl yng Nghwmbrân

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni archfarchnad Lidl wedi cwyno i un o gynghorwyr Reform UK ar ôl iddo gyhoeddi lluniau o'i hun yn torri rhuban i agor un o'u siopau yn swyddogol.

Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd David Thomas ar y cyfryngau cymdeithasol ei fod wedi agor y siop newydd yng Nghwmbrân "yn swyddogol".

Roedd llun ohono gyda rhai o weithwyr y siop a dau gynghorydd arall Reform.

Ond dywedodd y cwmni nad oedd digwyddiad swyddogol i dorri rhuban ac na chafodd gwahoddiadau eu hanfon at bobl.

Cafodd y neges ei dileu'n ddiweddarach gan David Thomas.

Y neges ar XFfynhonnell y llun, David Thomas/X
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y neges ei dileu ar ôl i Lidl gysylltu gyda David Thomas i gwyno

Dywedodd David Thomas, sy'n gynghorydd yn Nhorfaen, fod cwyn Lidl yn "nonsens llwyr".

Mae'n cyhuddo'r cwmni o beidio â bod eisiau cael ei gysylltu gyda'i blaid ac yn mynnu bod aelod o gyngor Torfaen wedi ei wahodd i'r agoriad.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod "aelod iau" o'r "tîm cyflogadwyedd" wedi anfon e-bost at y cynghorydd ynglŷn ag amser agor y siop newydd.

Mae ffynhonnell yn yr archfarchnad yn gwadu honiad Mr Thomas fod Lidl wedi ymateb yn wleidyddol i'r sefyllfa, gan ddweud bod hynny'n cyfleu ei farn "yn hytrach na'r ffeithiau".

'Braint cael agor y siop'

Mewn neges ar ei gyfrif X ar 6 Chwefror, dywedodd Mr Thomas ei bod "yn fraint cael agor y siop syfrdanol, modern a newydd yng Nghwmbrân".

Cyhoeddodd lun o'i hun yn dal siswrn gyda dau gynghorydd arall Reform, Jason O'Connell ac Alan Slade.

Roedd lluniau eraill ohono hefyd y tu fewn i'r siop ac fe gafodd neges debyg ei chyhoeddi ar Facebook.

Arwydd LidlFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Lidl yn dweud nad oes ganddyn nhw gysylltiad gydag unrhyw blaid wleidyddol

Mewn datganiad, dywedodd Lidl: "Er bod swyddogion lleol yn mynychu agoriadau swyddogol fel cynrychiolwyr etholedig yn y gymuned, dydyn ni ddim yn cysylltu ein hunain gydag unrhyw blaid benodol.

"Yn yr achos hwn, doedd dim gwahoddiadau swyddogol a doedd dim digwyddiad swyddogol i agor ein siop yng Nghwmbrân."

Cadarnhaodd y cwmni eu bod nhw wedi cysylltu gyda'r cynghorydd i ofyn iddo "addasu" ei negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol gan fod "rhai cydweithwyr wedi codi pryderon am y ffaith nad oedden nhw wedi rhoi caniatâd iddo ddefnyddio lluniau ohonyn nhw".

Dywedodd llefarydd bod rhywun wedi tynnu'r lluniau "yn ddigymell ar ôl i'r siop agor i gwsmeriaid".

'Nonsens llwyr, gwleidyddol'

Dywedodd Thomas wrth BBC Cymru ei fod wedi cael ei wahodd i'r agoriad gan swyddogion o gyngor Torfaen.

Mae'n honni ei fod wedi cael ei arwain o amgylch y siop a'i fod wedi cael siswrn i dorri'r rhuban.

"Mae hyn yn nonsens llwyr. Mae'n wleidyddol.

"Yr unig reswm maen nhw wedi gofyn i ni dynnu'r lluniau oddi ar blatfformau cymdeithasol yw eu bod nhw wedi sylweddoli ein bod ni'n aelodau o Reform UK."

Ychwanegodd: "Ydyn nhw wir yn credu y bydden ni'n mynd yno am 07:30 i rewi, heb reswm?"

Yn gynharach yn yr wythnos daeth i'r amlwg fod enw David Thomas yn ymddangos gydag enw unigolyn arall ar ganeuon sy'n sarhau menywod.

Dywedodd llefarydd ar ran Reform bod y caneuon wedi eu creu gan yr ail unigolyn, "ac nid y cynghorydd Thomas".

Galwodd y Blaid Lafur ar y cynghorydd i ymddiheuro ac ymddiswyddo am y geiriau "hynod o sarhaus".

Mae Mr Thomas, sy'n cynrychioli ward Llanfihangel Llantarnam yn Nhorfaen, yn gobeithio bod yn ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd yn 2026.

Mae plaid Reform eisoes wedi dweud eu bod nhw'n obeithiol o ennill sawl sedd ym Mae Caerdydd.

Pynciau cysylltiedig