Eisteddfod: Anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith
![Meleri Wyn James](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/b8f2/live/c0074380-4462-11ef-9e1c-3b4a473456a6.jpg)
Meleri Wyn James oedd enillydd y gystadleuaeth hon yn 2023
- Cyhoeddwyd
Seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddydd Mercher.
Mae hi hefyd yn ddiwrnod cyhoeddi enw enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ac enillydd Brwydr y Bandiau.
Meleri Wyn James o Aberystwyth oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Newid'.
![Medal Ryddiaith](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4c2a/live/e2744850-4462-11ef-9e1c-3b4a473456a6.jpg)
Mae'r fedal eleni yn rhoddedig gan Clochdar - papur bro Cwm Cynon
Y beirniaid eleni yw Annes Glyn, John Roberts ac Elen Ifan.
Mae'r fedal yn rhoddedig gan Clochdar - papur bro Cwm Cynon - er cof am Idwal Rees, pennaeth cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, a'r wobr ariannol o £750 yn rhoddedig gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina.
Fe fydd yr orsedd yn bresennol yn y seremoni - yn wahanol i seremoni cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen ddydd Mawrth.
![Blue Book](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/e381/live/c56b0ce0-53e8-11ef-9ecc-7fe7ef114852.jpg)
Mae Llyfr Glas Nebo, enillydd y gystadleuaeth hon yn 2018, wedi ennyn cryn sylw
Fe gyflwynwyd y fedal hon am y tro cyntaf ym 1937 - a hynny i J O Williams am ei gyfrol 'Tua'r Gorllewin ac Ysgrifau Eraill'.
Mae'r wobr wedi cael ei hatal droeon - y tro diwethaf i hynny ddigwydd oedd yn Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012.
Mae nifer o gyfrolau'r gystadleuaeth hon wedi cael cryn sylw - yn 2023 fe enillodd cyfieithiad o Lyfr Glas Nebo fedal Yoto Carnegie.
Bydd Seremoni Dysgwr y Flwyddyn am 14:10 yn y Pafiliwn a rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar Lwyfan y Maes rhwng 15:30 a 18:00. Y bandiau sydd wedi cyrraedd y brig yw Tesni, Ifan Rhys, Seren a Dim Gwastraff.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2024
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024
- Cyhoeddwyd6 Awst 2024