Graddau uchaf TGAU yng Nghymru yn ôl i lefel 2019

Evie ac Ellie
Disgrifiad o’r llun,

Dwy sy'n hapus gyda'r canlyniadau a gawson nhw ddydd Iau - Evie ac Ellie, disgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Maesteg

  • Cyhoeddwyd

Fel y disgwyl, mae canlyniadau TGAU yng Nghymru wedi gostwng yn ôl i lefel 2019 ar ôl i’r cymorth ychwanegol i fyfyrwyr yn dilyn y pandemig ddod i ben.

Ond yn wahanol i ganlyniadau lefel A yr wythnos diwethaf oedd yn uwch na rhai 2019, mae canlyniadau A*-C TGAU ychydig yn is na’r flwyddyn cyn y pandemig.

Derbyniodd 62.2% o ymgeiswyr raddau A* i C, o gymharu â 62.8% yn 2019. Y llynedd roedd y ffigwr yn 64.9%.

Dywedodd yr Ysgrifenydd Addysg, Lynne Neagle, bod y canlyniadau "le yr ydym ni’n disgwyl iddyn nhw fod gyda chanlyniadau yn debyg i rai 2019”".

Fe ddechreuodd y plant sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU eleni yr ysgol uwchradd yn 2019, dim ond i gael eu hanfon adref am gyfnod amhenodol chwe mis yn ddiweddarach oherwydd y pandemig.

Doedd dim cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr fu'n sefyll arholiadau yn 2024 ac mae'r marcio hael yn dilyn y pandemig wedi dod i ben.

Dywedodd pennaeth Ysgol Lewis Pengam, a llywydd undeb y prifathrawon NAHT Cymru, Chris Parry bod hi'n bwysig i'r drefn fynd nôl i'r arfer.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r amser cywir i newid nôl i'r drefn arferol o arholi, yn ôl y pennaeth Chris Parry

Mae'n anodd cymharu o flwyddyn i flwyddyn ar hyn o bryd, meddai, ac mae canlyniadau yn "fesur allweddol" o sefyllfa'r gyfundrefn addysg, ond mae ysgolion yn dal i weld sgil-effeithiau'r pandemig meddai - fel presenoldeb is.

"Dwi'n credu ar ryw bwynt roedden ni wastad yn mynd i orfod mynd nôl i ble'r oedden ni yn 2019 ac mae'n iawn ein bod ni'n gwneud hynny eleni," meddai.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig pwysleisio bod y myfyrwyr yma wedi colli llawer o amser ac mae heriau'n dal i fodoli o fewn y system."

Wrth gwrdd â disgyblion yn Ysgol Gyfun Pencoed ym Mhen-y-bont ar Ogwr fore Iau, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle, ei bod yn llongyfarch pawb sy'n cael eu canyniadau ac yn ddiolchgar i'w hathrawon.

"Mae'n siŵr bod y pandemig wedi effeithio arnoch chi i gyd, ond mae cael eich canlyniadau heddiw yn garreg filltir fawr," dywedodd.

"Eleni yw ein cam olaf yn ôl at y trefniadau arholi a oedd gyda ni cyn y pandemig. Ac mae canlyniadau heddiw yn adlewyrchu'r hyn roedden ni'n ei ddisgwyl, sef eu bod yn debyg i ganlyniadau 2019."

Dansoddiad ein gohebydd addysg a theulu, Bethan Lewis

Roedd disgyblion a staff Ysgol Pencoed yn bles gyda’r canlyniadau bore 'ma.

Mae’r penawdau am y graddau Cymru-gyfan yn teimlo’n amherthnasol i’r rheiny sydd dim ond eisiau gwybod bod eu canlyniadau yn adlewyrchiad teg o’u gwaith.

Ond mae newidiadau i ganrannau yn adlewyrchu newidiadau ar lefel ysgol hefyd.

Mae pob ysgol yn wahanol ond maen nhw wedi sylwi yma bod cael C mewn rhai pynciau wedi bod yn anoddach eleni.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle – oedd yma i longyfarch myfyrwyr – y byddai’n cymryd golwg agosach ar y data.

Ac wrth ymateb i’r pryder cynyddol sydd wedi bod am safonau yn y drefn addysg yng Nghymru, fe wnaeth hi addo mesurau cyn hir i wella cyrhaeddiad.

'Gwnes i fy ngorau'

Ceisio aros yn bositif cyn cael ei chanlyniadau roedd Millie, 16 o'r Porth yn Rhondda Cynon Taf, sydd "bendant yn nerfus".

Roedd hi'n disgwyl cymysgedd o raddau ddydd Iau ar ôl amryw o dreialon yn ystod y cyfnod arholi - gan gynnwys gadael y neuadd ynghanol arholiad Saesneg gan nad oedd yn teimlo'n dda.

Roedd sefyll arholiadau gyda ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd) yn anodd oherwydd y newid i'r drefn arferol, felly i Millie "nid y gwaith rwy'n poeni amdano fe, ond sut ddes i i ben â'r arholiadau".

Ei bwriad yw mynd nôl i'r chweched dosbarth i ddilyn cyrsiau Lefel A, ac o bosib ailwneud rhai pynciau TGAU.

Ond beth bynnag y canlyniadau, mae hi'n falch "achos gwnes i fy ngorau".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Millie yn hapus beth bynnag ei chanlyniadau am iddi weithio'n galed

Gwnaed bron i 323,000 o geisiadau TGAU yr haf hwn.

Yng Nghymru, mae ymgeiswyr yn derbyn graddau o A* i G - y drefn yn Lloegr yw marcio wrth rif o 9 i 1.

Fe fydd newidiadau sylweddol i'r cwrs TGAU yng Nghymru o fis Medi 2025 pan fydd cymwysterau newydd yn cael eu cyflwyno i gydfyd â'r Cwricwlwm i Gymru, ddechreuodd gael ei ddysgu yn 2023.

Mae cael gwared ar radd ar wahân mewn Cemeg, Ffiseg a Bioleg er mwyn creu un cymhwyster TGAU gwyddoniaeth dwbl wedi profi'n ddadleuol.

Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru'n gynharach eleni y bydd y TGAU gwyddoniaeth yn cael ei ddysgu o fis Medi 2026 yn hytrach na Medi 2025 - y cynllun gwreiddiol.

Pynciau cysylltiedig