Rhys Mwyn: Sefydlu grŵp newydd i drafod cerddoriaeth

- Cyhoeddwyd
Ewch yn ôl bum mlynedd ac roedd Twitter (X bellach) yn lle gwych i ddod o hyd i gymuned Gymraeg a oedd yn trafod pynciau'r dydd, cerddoriaeth, chwaraeon a mwy gyda brwdfrydedd. Ond bellach, am amryw resymau, dydy'r gymuned honno ddim hanner beth oedd hi.
Un o'r bobl oedd yng nghanol llawer o'r sgyrsiau hynny yw'r darlledwr Rhys Mwyn. Mae Rhys a thîm cyfryngau cymdeithasol Radio Cymru nawr wedi sefydlu grŵp Facebook, Recordiau Rhys Mwyn, dolen allanol.
Y bwriad yw creu lle i gynulleidfa ei raglen wythnosol o ar BBC Radio Cymru rannu straeon, gigs, lluniau, holi cwestiynau a chyfrannu at ei raglen o, a bod yn rhan unwaith eto o "gymuned nos Lun".
Cafodd Cymru Fyw sgwrs sydyn gyda Rhys am y penderfyniad i sefydlu'r grŵp.
Ble mae'r drafodaeth am gerddoriaeth wedi mynd?
"Pan wnaethon ni ddechrau'r sioe radio nos Lun yn ôl yn 2016, yn yr wythnosa' cynta' yna oedden ni'n cael dros 100 o sylwadau ar Twitter yn wythnosol. Mae'n lwcus i gael un neu ddau rŵan ar Twitter," eglurodd Rhys.
Mae'n ymddangos fod y platfform sydd nawr yn mynd dan yr enw X wedi gweld dyddiau gwell, ond dywedodd y cyflwynydd ei fod o'n dal i'w ddefnyddio oherwydd bod "bob un person sy'n ymateb yn cyfri".

"Os ti'n cymryd cam yn ôl, mi oedd 'na gyfnod, er enghraifft, lle oedd MySpace yn gyfrwng ar gyfer cerddoriaeth."
Roedd MySpace yn un o'r platfformau cyfryngau cymdeithasol cyntaf i gydio gyda chenhedlaeth y millennials, ac roedd cerddoriaeth yn rhan fawr ohono. Cafodd artistiaid fel Arctic Monkeys, Lily Allen, a Calvin Harris eu dechreuadau ar MySpace yn cysylltu gyda ffans, hysbysebu gigs a rhannu cerddoriaeth.
"Wedyn be' dan ni wedi'i weld o ran cyfryngau cymdeithasol ydi pethau yn mynd a dod. O ran be' dwi'n ei weld mae Bandcamp dal i weithio i artistiaid, bands a cherddorion. Maen nhw'n dal i ddefnyddio Bandcamp ond mae MySpace wedi hen fynd."
"Wedyn os wyt ti'n edrych ar blatfformau Cymraeg, Maes E oedd yr enghraifft amlwg yn niwedd y 90au/2000 a'r cyfnod yna, lle oeddet ti'n cael trafodaeth am beth oedd yn digwydd o ran gigs neu records neu bands."
Ond fe ddaeth y cyfryngau cymdeithasol yn lle hwnnw hefyd. A thra bod yna nifer o blatfformau sy'n gweithio i lawer o fandiau, does dim un yn sefyll allan o ran bod yn rhywle y gall ffans cerddoriaeth ddod at ei gilydd i rannu a thrafod.
Mynd at y gynulleidfa
O ran creu'r gofod hwnnw i'r gynulleidfa, eglurodd Rhys bod angen mynd i le mae'r gynulleidfa honno beth bynnag.
"'Sa ti'n disgwyl i bobl sy'n gwrando nos Lun fod yn licio Manics neu Catatonia neu Super Furries. Nhw ydy'r bullseye.
"A bob ochr i hynny, fydda' i hefyd yn chwarae tracs gan Bando ac Edward H, a chwarae stwff newydd fel Blodau Papur neu Parisa Fouladi neu Kizzy Crawford. Mae pobl yn licio hynny.
"Ond 'swn i'n dweud, yn gyffredinol iawn, [efo cynulleidfa nos Lun] mae'n debyg mai Facebook ydi'r llwyfan maen nhw fwya' cyfarwydd â fo."

Mae gan y grŵp dros 350 o aelodau erbyn hyn
Roedd Cymru Fyw yn siarad â Rhys ddeuddydd ar ôl lansio'r grŵp Facebook.
"Mae 'na dros 260 o bobl wedi ymuno efo hwnna ers nos Lun. Mae 'na nifer ohonyn nhw 'di gadael sylwadau, a does yna ddim byd mawr wedi bod arno fo eto o ran [ni yn Radio Cymru yn] ysgogi trafodaeth.
"Mae rhywun yn gobeithio hefo'r grŵp Facebook, mai hwnna fysa'r lle i'r gwrandawyr i hysbysebu gigs, i ofyn am geisiadau sioe, i roi sylwadau os ydyn nhw wedi bod i gigs dros y penwythnos, postio lluniau, ffeindio hen records, ti'n gwybod?
"Os ydi o'i gyd yn mynd i un lle, lle mae 'na ffocws, lle mae 'na groeso, mae 'na gyfle i dd'eud dy dd'eud, mae 'na gyfle i gyfrannu; mae hynny'n well na bod yna ryw ddwy neges ar Instagram, ryw un neges ar Twitter a rhywbeth arall ar Bluesky.
"'Dan ni'n sôn am gymuned nos Lun achos maen nhw'n dda efo ni."
Ai ffordd o ddod â'r rhaglen a'r gwrandawyr yn nes at ei gilydd ydy'r grŵp felly?
"Fydda' i'n deud yn aml iawn y dyfyniad gan Joe Strummer, canwr The Clash, oedd o'n dweud 'without people, we're nothing' a fydda' i'n deud: heb wrandawyr 'sgynnon ni ddim sioe."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd24 Chwefror