Eluned Morgan yn penodi cabinet Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi ad-drefnu ei chabinet am y tro cyntaf.
Jeremy Miles yw'r ysgrifennydd iechyd, sef un o swyddi pwysicaf y llywodraeth gyda mwy na hanner cyllideb £20bn Llywodraeth Cymru.
Mae'r cyn-brif weinidog Mark Drakeford yn aros yn y Cabinet, gan symud o fod yn ysgrifennydd iechyd dros dro i olynu Rebecca Evans yn ysgrifennydd cyllid - yr eildro iddo wneud y swydd honno.
Mr Drakeford sydd hefyd yn gyfrifol am y Gymraeg.
Yn ogystal â bod yn ddirprwy brif weinidog, mae Huw Irranca-Davies yn parhau yn ysgrifennydd newid hinsawdd a materion gwledig.
Mae Lynne Neagle yn parhau'n ysgrifennydd addysg.
Penodwyd Ken Skates yn ysgrifennydd dros drafnidiaeth a gogledd Cymru, ac felly mae wedi colli y cyfrifoldeb am yr economi.
Rebecca Evans yw ysgrifennydd yr economi, ynni a chynllunio.
Dyw Lesley Griffiths a Mick Antoniw, a ymddiswyddodd o'r llywodraeth ar yr un pryd â Jeremy Miles a Julie James, ddim wedi cael swyddi yn y cabinet.
Bydd Jane Hutt hefyd yn aros fel prif chwip, er y bydd ei phortffolio diwylliant yn symud at yr is-weinidog Jack Sargeant a fydd hefyd yn gyfrifol am sgiliau a phartneriaeth gymdeithasol.
Yn y cyfamser mae Vikki Howells, AS Cwm Cynon, wedi cael ei dyrchafu i'r llywodraeth fel is-weinidog am y tro cyntaf, yn gyfrifol am addysg bellach ac uwch.
Y cabinet yn llawn yw:
Huw Irranca-Davies AS - Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Jeremy Miles AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mark Drakeford AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Rebecca Evans AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Jayne Bryant AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Lynne Neagle AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ken Skates AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Jane Hutt AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Jack Sargeant AS - Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Vikki Howells AS - Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Sarah Murphy AS - Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Dawn Bowden AS - Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Julie James AS - Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Dywedodd Eluned Morgan bod y "newidiadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn cynnig sefydlogrwydd, yn manteisio ar brofiad, ac yn dod â’n holl dalentau ynghyd".
Ychwanegodd bod y "portffolios newydd yn adlewyrchu’r Gymru fodern ac wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r prif heriau y mae pob un ohonom yn eu hwynebu".
Uno grŵp rhanedig?
Roedd Eluned Morgan yn wynebu’r penderfyniad a ddylid ailbenodi’r gweinidogion a arweiniodd at ymddiswyddiad Vaughan Gething yn yr haf, sef Jeremy Miles, Julie James, Lesley Griffiths a Mick Antoniw.
Roedd y cyn-brif weinidog Vaughan Gething eisoes wedi diystyru ei hun rhag dychwelyd i'r llywodraeth.
Ers iddi ddod yn brif weinidog ym mis Awst, unig benodiad gweinidogol mawr Eluned Morgan fu gwneud y cyn-brif weinidog Mark Drakeford yn ysgrifennydd iechyd dros dro - gan lenwi'r sedd wag a gafodd ei gadael gan Ms Morgan ei hun.
Daeth Eluned Morgan yn arweinydd Llafur Cymru ar yr addewid y gallai ddod â grŵp rhanedig Llafur yn y Senedd yn ôl at ei gilydd.
Cafodd ei hethol yn ddiwrthwynebiad ar ôl i Jeremy Miles benderfynu peidio â sefyll am yr arweinyddiaeth.
Roedd cefnogwyr Vaughan Gething wedi rhoi'r bai ar Jeremy Miles am rai o’r rhaniadau yn y grŵp.
Dywedodd beirniaid Gething fod y bai ar y cyn-brif weinidog ei hun, a’i benderfyniad i gymryd rhodd o £200,000 i ymgyrch ei arweinyddiaeth gan ddyn a gafwyd yn euog o gael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon.
Dadansoddiad
Daniel Davies, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Mae'n dair blynedd ers i Lywodraeth Cymru ddweud taw delio gyda'r holl driniaethau a ohiriwyd gan y pandemig oedd ei phrif flaenoriaeth.
Ers hynny mae rhestrau aros wedi codi'n uwch fyth, gan gyrraedd record newydd fis diwethaf.
Jeremy Miles yw'r gwleidydd sy'n etifeddu'r ddyletswydd o geisio datrys y broblem.
Mae ei ragflaenydd yn gwybod mor anodd fydd hynny. Roedd Eluned Morgan yn weinidog iechyd cyn dod yn brif weinidog - felly hefyd Vaughan Gething a Mark Drakeford.
Ac o sôn am Drakeford, fel paffiwr sydd methu ymddeol, mae e'n ôl yn y llywodraeth, naw mis ar ôl iddo gyhoeddi ei fod am gamu lawr.
'Yr un hen Lafur'
Wrth ymateb, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru: “Er bod prif weinidog newydd, yr un hen Lafur yw hi o hyd."
Meddai: “Rydym yn gwybod y bydd y Llywodraeth Lafur Gymreig hon yn parhau i fethu yn y meysydd allweddol sydd o bwys i Gymru tra byddan nhw'n blaenoriaethu eu hamser a'u hegni ar hoff brosiectau dibwrpas.
“Y Ceidwadwyr Cymreig yw’r gwir ddewis amgen i wleidyddiaeth Llafur, a dim ond gyda Llywodraeth Geidwadol Gymreig y bydd pethau o’r diwedd yn newid er gwell.”
Ac wrth ymateb, dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru: "Ar ôl haf di-sylwedd llawn ymarferion PR gwag, mae'r prif weinidog wedi penderfynu - gydag wythnos i fynd nes bod y Senedd yn dychwelyd o’i thoriad - i roi ei chabinet at ei gilydd.
"Yn y cyfamser, mae gwaddol llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru yn parhau: mae ein gwasanaeth iechyd mewn trafferth, mae’n economi ni’n llonydd, ac mae safonau addysg yn gostwng.
"Dyma drydydd cabinet Llywodraeth Cymru eleni ar ôl misoedd o anhrefn mewnol y blaid Lafur.
"Mae Cymru'n haeddu gwell na llywodraeth Lafur flinedig a rhanedig sy’n cyflawni dim."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2024
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd6 Awst 2024