'Hurt' nad oes digwyddiadau swyddogol i gofio'r pandemig yng Nghymru

Aelodau o deuluoedd mewn profedigaeth yn rhoi cynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd ar ôl i Vaughan Gething, y gweinidog iechyd yn ystod y pandemig a gweinidog presennol yr economi, roi tystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y DU wrth iddo gynnal gwrandawiadau yng Nghymru.Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o deuluoedd mewn profedigaeth - gyda Anna-Louise Marsh-Rees ar y chwith - yn rhoi cynhadledd i'r wasg yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae teuluoedd a gollodd anwyliaid yn sgil lledaeniad Covid-19 yn flin gan nad oes digwyddiadau swyddogol yn cael eu cynnal yng Nghymru i nodi pum mlynedd ers dechrau'r pandemig.

Fe fydd digwyddiadau i nodi'r achlysur yn cael eu cynnal mewn gwahanol rannau o'r DU ar ddydd Sul 9 Mawrth.

Mae'r grŵp ymgyrchu, Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru yn dweud eu bod yn flin nad yw Llywodraeth Cymru wedi trefnu unrhyw ddigwyddiadau arbennig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "angen i'r teuluoedd a gollodd annwyliaid i fod ar flaen ein meddyliau wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal gan grwpiau cymunedol ar hyd y DU i nodi Diwrnod Myfyrio Covid-19".

Anna-Louise Marsh-Rees
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Anna-Louise Marsh-Rees, mae'n "hurt" nad oes digwyddiadau swyddogol yn cael eu cynnal yn y coedlannau coffa

Mae mwy na 12,000 o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael eu heintio a Covid-19 ers mis Mawrth 2020.

Roedd adroddiad gan Gomisiwn y DU ar gyfer coffau Covid yn argymell cynnal Diwrnod Myfyrio Covid-19 yn flynyddol "er mwyn rhoi cyfle i gymunedau ddod ynghyd i gofio am y rhai fu farw".

Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer dydd Sul - o funudau o dawelwch i deithiau cerdded - ond mae Anna-Louise Marsh-Rees, a gollodd ei thad, Ian yn ystod y pandemig, yn dweud ei fod yn "hurt" nad oes unrhyw ddigwyddiadau swyddogol.

Bu farw Mr Marsh-Rees, 85, yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni ym mis Hydref 2020 ar ôl cael ei gludo yno yn wreiddiol oherwydd problem gyda'i bledren.

"Ein pryder ni yw eu bod nhw [y llywodraeth] wedi gwrthod cynnal digwyddiadau yn y coedlannau coffa," meddai Ms Marsh Rees.

"Dwi'n meddwl ei fod o'n hurt eu bod nhw wedi creu coedlannau gyda'r pwrpas o gofio'r rhai fu farw yn ystod y pandemig, ond eto yn dewis peidio cynnal digwyddiadau yno, er i ni ofyn."

Ian Marsh-ReesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ian Marsh-Rees ym mis Hydref 2020 ar ôl cael ei heintio â Covid-19

Mae tair coedlan coffa yng Nghymru ar hyn o bryd; yng Nghwmfelinfach yng Nghaerffili, ar Ystâd Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Wrecsam a safle a ddewiswyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn Brownhill yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin.

Wrth gyhoeddi'r drydedd goedlan yn 2020, dywedodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd, Mark Drakeford y byddai'r safleoedd yn "symbol o'r cryfder y mae pobl Cymru wedi'i ddangos dros y ddwy flynedd ddiwethaf, dolen allanol".

'Dydyn ni ddim yn deall pam'

Yn sgil y diffyg digwyddiadau swyddogol, dywedodd Ms Marsh-Rees ei bod wedi mynd ati i drefnu digwyddiad preifat ei hun.

"Dydyn ni ddim eisiau gweld digwyddiadau cymunedol yn unig, roedden ni am weld rhywbeth mwy i ddod â phobl ynghyd," meddai.

"Mae hi'n bum mlynedd ers i'r pandemig daro'r DU, a 'da ni wedi drysu braidd, dydyn ni ddim yn deall pam na fyddai Llywodraeth Cymru eisiau nodi hynny mewn un ffordd neu'r llall."

Ym mis Rhagfyr fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan eu bod nhw'n cydweithio â Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau fod y diwrnod yn cael ei nodi mewn modd addas.

Cafodd y mater ei godi yn y Senedd ddydd Mawrth gan Mark Isherwood AS, wnaeth alw am ddatganiad gan y llywodraeth i egluro'r penderfyniad i beidio â chynnal digwyddiad swyddogol.

"Mae'n ddigon drwg nad yw'r teuluoedd yma wedi cael Ymchwiliad Covid yn benodol i Gymru, a'u bod bron yn anweledig yn yr Ymchwiliad Prydeinig - ond mae'r penderfyniad i anwybyddu'r diwrnod hwn wir yn sarhau'r rhai fu farw a'u teuluoedd," meddai.

Wrth ymateb, dywedodd Jane Hutt yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y byddai hi yn mynd i'r goedlan goffa yng Nghaerffili ac y byddai adeiladau'r llywodraeth yng Nghaerdydd yn cael eu goleuo i nodi'r achlysur.

"Mae'n benwythnos pwysig, mae'n ddiwrnod pwysig, mae'n amser pwysig. Yn amlwg fe fydd yn gyfle i ni gyd fyfyrio yn unigol, ond hefyd o safbwynt y llywodraeth - ac rydyn yn cydnabod pwysigrwydd, a pha mor anodd ydi'r cyfnod yma i'r teuluoedd."

Ond yn ôl Ms Marsh-Rees, mae angen i'r llywodraeth wneud mwy ar raddfa genedlaethol.

"Mae pobl eisiau coffau, ond does dim pwynt cael diwrnod o'r fath os nad oes cyfle i ddod ynghyd i gofio gyda'n gilydd. Mae hi mor bwysig i ni dreulio amser yn cofio'r rhai fu farw - a gawn ni plîs un diwrnod, un munud i gofio ein hanwyliaid?"

Anna-Louise Marsh-Rees
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Anna-Louise Marsh-Rees roi tystiolaeth i'r Ymchwiliad Covid yn 2023

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Y penwythnos hwn fe fyddwn ni'n nodi pum mlynedd ers dechrau'r pandemig Covid-19, rhywbeth a gafodd gymaint o effaith ar ein bywydau ni gyd.

"Mae angen i'r rhai a gollodd anwyliaid i fod ar flaen ein meddyliau. Mae Diwrnod Myfyrio Covid-19 yn gyfle blynyddol i bobl ddod at ei gilydd i gofio'r rhai fu farw mewn ffyrdd sy'n addas iddyn nhw.

"Yng Nghymru, fel ar hyd gweddill y DU, mae digwyddiadau yn cael eu trefnu gan grwpiau cymunedol i nodi Diwrnod Myfyrio Covid-19 ddydd Sul."

Fe fydd digwyddiadau cymunedol sydd wedi eu trefnu yng Nghymru i'w gweld ar fap rhyngweithiol Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon., dolen allanol

Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn cais am ymateb.