Cofnodi 6 trosedd y dydd yn ymwneud â lluniau anweddus o blant

Mared ParryFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mared Parry, sy'n ymgyrchydd ar ddiogelwch ar-lein gyda'r NSPCC, bod maint y broblem yn "frawychus"

  • Cyhoeddwyd

Cafodd chwe trosedd yn ymwneud â delweddau o gam-drin plant eu cofnodi bob dydd gan heddluoedd Cymru ar gyfartaledd y llynedd, yn ôl y Swyddfa Gartref.

Mae'r heddlu'n ymwybodol o dros 2,000 o droseddau o'r fath a gafodd eu cyflawni yn y flwyddyn ddiwethaf - gyda bron i hanner yn cael eu cofnodi yn ardal Heddlu De Cymru.

Yn ôl elusen NSPCC, mae angen i Lywodraeth y DU sicrhau fod plant yn cael eu gwarchod ar wefannau cymdeithasol sydd yn aml yn cael eu camddefnyddio gan droseddwyr.

Dywedodd Llywodraeth y DU bod "rhaid i rwydweithiau cymdeithasol sicrhau nad ydy gweithgaredd troseddol yn digwydd ar eu gwefannau".

Cyfryngau cymdeithasolFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Mared Parry yn 14 oed pan wnaeth dynion feithrin perthynas amhriodol gyda hi ar-lein a'i thwyllo hi i anfon lluniau anweddus o'i hun.

Mae'r cyflwynydd a'r newyddiadurwr bellach yn ymgyrchydd ar ddiogelwch ar-lein gyda'r NSPCC, ac yn dweud bod maint y broblem yn "frawychus".

"Mae'r dechnoleg yn newid rŵan sy'n ei wneud o'n haws i groomers beidio gael eu dal am eu troseddau, pan ddylai'r gwrthwyneb fod yn wir," meddai.

"Mae 'na oblygiadau go iawn i gamdriniaeth ar-lein."

'Troseddwyr yn cuddio be maen nhw'n neud'

Ychwanegodd bod angen "deffro" i'r ffaith mai Snapchat oedd y platfform a gafodd ei ddefnyddio yn hanner y troseddau gafodd eu cofnodi.

"Mae'r negeseuon sy'n diflannu, y diffyg atebolrwydd, a'r pwyslais ar breifatrwydd yn creu'r amodau perffaith er mwyn osgoi gweld camdriniaeth," meddai.

"Mae o'n ddigon anodd yn barod i ddioddefwyr brofi eu bod nhw wedi cael eu cam-drin, ac mae pethau fel hyn just yn ei wneud o'n haws i droseddwyr guddio be' maen nhw'n ei wneud.

"Ond mae'r cwmnïau technoleg yn dal i flaenoriaethu mwy o ddefnydd yn lle diogelwch, ac mae canlyniadau hynny'n ddinistriol," meddai.

Yn ôl data'r Swyddfa Gartref, cafodd 2,194 o droseddau yn ymwneud â delweddau o natur rywiol o blant eu cofnodi yn 2023/24.

Roedd 964 o'r achosion hynny wedi eu cofnodi gan Heddlu'r De, 535 gan Heddlu'r Gogledd, 503 gan Heddlu Gwent a 192 gan Heddlu Dyfed-Powys.

Yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth ar wahân a gan yr NSPCC, mae wedi dod i'r amlwg fod 50% o'r troseddau a gafodd eu cofnodi gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi eu cyflawni ar Snapchat.

Roedd 11% wedi eu cyflawni gan ddefnyddwyr Instagram, 7% ar Facebook a 6% ar WhatsApp.

'Y pwysau i anfon lluniau noeth'

Yn 2024, siaradodd Cymraes ifanc gyda Cymru Fyw am ei phrofiadau hi o dderbyn lluniau noeth ar rwydweithiau cymdeithasol, a pha mor gyffredin yw hynny ymhlith ei chyfoedion.

"Un o'r profiadau gwaethaf i fi oedd pan oedd person 18 oed yn anfon lluniau noeth i fi ac oedd e'n hollol ymwybodol bod fi'n 15," meddai.

"O'n i'n snapio fe [cysylltu dros Snapchat] yn hollol normal fel ffrindiau ac 'nath e gael y syniad anghywir a danfon llun o'i law e o dan ei boxers. O'n i just yn trio siarad ag e'n normal fel ffrindiau a ddim eisiau dim byd pellach wrtho fe.

Llun o ferch ar wely yn defnyddio ffonFfynhonnell y llun, Getty Images

"'Nes i jest ignorio fe ond 'nath e ddim stopio anfon y lluniau.

"Oedd mwy a mwy yn cael ei ddangos ac yn y diwedd o'n i ddim yn siŵr beth i 'neud. Achos oedd e'n hŷn ti'n teimlo rhyw fath o imbalance."

"O'n i ddim yn siŵr beth o'n i fod i 'neud.

"Oedd ddim unrhyw gydsyniad rhywiol yna - oedd e just yn lun unsolicited o'n i ddim wedi gofyn am.

"'Nes i just blocio fe achos o'n i'n 15 ac yn terrified o beth fydde fe'n 'neud.

"Ond nawr mae hynny'n normal."

'Dim esgus am oedi'

Mewn llythyr ar y cyd, mae'r NSPCC a nifer o elusennau eraill wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i "sicrhau fod plant yn fwy diogel ar blatfformau negesu preifat".

Mae'r elusen yn honni fod pobl ifanc yn cael eu targedu a'u twyllo ar-lein, gyda rhai troseddwyr yn defnyddio platfformau negesu i'w gorfodi i rannu lluniau anweddus.

"Mae'r troseddau hyn yn achosi niwed a thrallod ofnadwy i blant, gyda'r cynnwys anghyfreithlon yma yn aml yn cael ei wylio a'i rannu ar-lein," meddai Chris Sherwood, prif weithredwr NSPCC.

"Mae'n gywilydd ein bod ni'n dal i weld hyn yn digwydd yn 2025, a bod cwmnïau technoleg yn gwneud cyn-lleied i gael gwared a'r cynnwys yma o'u gwefannau.

"Mae angen i'r llywodraeth egluro sut y maen nhw am weithredu er mwyn rhoi stop ar y gamdriniaeth yma ar wasanaethau negesu preifat a sicrhau fod cwmnïau technoleg yn cadw plant yn ddiogel... does dim esgus am oedi neu ddiffyg gweithredu."

Mae bygythiadau ar-lein pan mae'n dod at luniau anweddus yn gallu bod yn brofiad brawychus – dyma rywfaint o gyngor gan Tamsin McNally, Rheolwr Llinell Gymorth yr Internet Watch Foundation:

  • "Cofiwch mai nid eich bai chi yw hi os oes rhywun yn cysylltu neu yn eich bygwth ar-lein. Y person sy'n ceisio eich blacmelio neu gymryd mantais ohonoch chi yw'r un sy'n gwneud rhywbeth o'i le. Mae llawer o bobl ifanc wedi bod mewn sefyllfa debyg."

  • "Torrwch bob cysylltiad gydag unrhyw un sy'n ceisio eich bygwth, a pheidiwch â rhannu unrhyw mwy o luniau neu fideos, neu dalu arian o unrhyw fath. Os ydych chi wedi bod yn cysylltu ar ap, dylai bod modd o flocio ac adrodd am y defnyddiwr."

  • "Fyddwch chi ddim mewn trwbl gyda'r heddlu – dywedwch beth sydd wedi digwydd i'r heddlu ar 101, neu drwy adrodd i Ganolfan Ddiogelwch CEOP yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, ble bydd cynghorydd diogelwch plant yn gallu cynnig y cymorth sydd ei angen arnoch."

  • "Gallwch ddefnyddio teclyn ar-lein o'r enw Report Remove. Bydd yr IWF wedyn yn ceisio tynnu'r llun, fideo neu linc anweddus oddi ar y rhyngrwyd. Gallwch hefyd siarad gyda Childline, sydd wedi rhoi cefnogaeth i eraill yn yr un sefyllfa."

  • I rieni, mae'n dweud: "Mae'n bwysig eich bod chi'n cael sgwrs agored a gonest gyda'ch plant am y risgiau ar-lein, a gwrando ar eu pryderon."

Dywedodd Snapchat eu bod nhw'n gallu gweithio gydag awdurdodau i ddod o hyd i wybodaeth a chynnwys os oes angen, gan feirniadu unrhyw "ecsbloetio rhywiol" ar y platfform.

"Os ydyn ni'n dod yn ymwybodol o'r fath gynnwys, unai drwy ein hymdrechion ni i ddod o hyd iddynt neu o adrodd o fewn yr ap, rydym yn ei ddileu, cloi'r cyfrif sy'n torri'r rheolau, a'i adrodd i'r awdurdodau," meddai llefarydd.

Ychwanegodd bod "Snapchat wedi ei ddylunio i'w gwneud hi'n anodd... dod o hyd i bobl ifanc ac ymwneud â nhw, ac mae rhwystrau ychwanegol mewn lle i atal pobl ddiarth rhag cysylltu gyda phobl yn eu harddegau".

"Mae ein Canolfan Deulu yn gadael i rieni weld pwy mae eu plant yn ffrindiau gyda, ac yn siarad gyda nhw ar Snapchat.

"Rydyn ni'n gweithio gyda sefydliadau arbenigol ac eraill yn ein diwydiant i daclo'r problemau yma gyda'n gilydd, a ddim yn credu bod y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu pa mor ddifrifol yw ein hymroddiad a'n hymdrechion ar y cyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod "y gyfraith yn glir", a bod "rhaid i rwydweithiau cymdeithasol sicrhau nad ydy gweithgaredd troseddol yn digwydd ar eu gwefannau".

Ychwanegodd: "Rydym eisoes wedi cyflwyno pedair deddf newydd i daclo camdriniaeth o blant ar-lein, ond ni all cwmnïau technoleg ddefnyddio dewisiadau ar ddyluniad fel esgus i beidio mynd i'r afael gyda'r troseddau ofnadwy yma - ac ni fyddwn yn oedi wrth fynd ymhellach i amddiffyn plant ar-lein."

Pynciau cysylltiedig