Torïaid eisiau ymddiheuriad am drydariad Swyddfa Cymru ar y gyllideb

Jo StevensFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth AS Llafur Dwyrain Caerdydd Jo Stevens yn Ysgrifennydd Cymru fis Gorffennaf y llynedd, ar ôl buddugoliaeth y blaid yn yr etholiad cyffredinol

  • Cyhoeddwyd

Dylai Ysgrifennydd Cymru ymddiheuro am "wleidydda" gweision sifil mewn sylwadau am gyllideb Llywodraeth y DU ar gyfrif X Swyddfa Cymru, medd y Ceidwadwyr.

Fe wnaethon nhw gwyno i ysgrifennydd y cabinet - prif was sifil San Steffan - ar ôl i Jo Stevens ddweud bod y gyllideb "yn cyflawni dros Gymru am y tro cyntaf ers cenhedlaeth".

Cytunodd prif weithredwr gwasanaeth cyfathrebu Llywodraeth y DU y gallai'r trydariad "fod wedi'i geirio'n well" a dywedodd ei fod wedi siarad â Swyddfa Cymru.

Dywedodd Swyddfa Cymru fod y mater wedi'i drafod gyda'i chyfarwyddwr er mwyn "sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â chanllawiau".

Mims Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mims Davies yn AS Ceidwadol dros East Grinstead ac Uckfield, yn ne-ddwyrain Lloegr

Ni ddylid defnyddio adnoddau swyddogol at ddibenion plaid wleidyddol, o dan God y Gwasanaeth Sifil.

Yn ei llythyr at ysgrifennydd y cabinet, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru, Mims Davies:

"Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno na allwn gael adnoddau a ariennir gan drethdalwyr yn cael eu camddefnyddio ar y mathau hyn o negeseuon a chael eich gweision sifil yn weithredol yn wleidyddol y tu mewn i adrannau, ac efallai dan bwysau i anfon neges fel hon."

Wrth ateb, dywedodd Simon Baugh, prif weithredwr gwasanaeth cyfathrebu'r llywodraeth: "Yn yr achos penodol hwn, er bod testun y trydariad yn adleisio rhan fer o ddatganiad i'r wasg gan Drysorlys Ei Mawrhydi, rwy'n cydnabod y gallai fod wedi'i eirio'n well, ac rwyf wedi trafod y mater gyda Swyddfa Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru fod adran y llywodraeth yn "dilyn canllawiau gwasanaeth cyfathrebu'r llywodraeth ac mae hyfforddiant gorfodol yn cael ei gynnal ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ar sianeli swyddogol y llywodraeth".

"Amlygodd y trydariad dan sylw sut mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi yng Nghymru.

"Mae'r mater hwn wedi cael ei drafod gyda chyfarwyddwr Swyddfa Cymru er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â chanllawiau."

Pynciau cysylltiedig