Achosion llysoedd teulu byrrach yn 'galonogol', medd gweinidog

Plentyn yn dal dwylo gyda dyn a menyw.Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'n galonogol fod rhieni a phlant yn wynebu gwrandawiadau byrrach mewn llysoedd teulu yn dilyn adolygiad gan y llywodraeth, meddai gweinidog.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod cynllun peilot mewn rhai llysoedd, gyda'r bwriad o leihau oedi a chefnogi dioddefwyr cam-drin domestig, wedi lleihau hyd yr achosion o 29 wythnos, ar gyfartaledd, i 18.

Yn ôl Alex Davies-Jones AS, y gweinidog dros drais yn erbyn menywod a merched, mae'r cynllun wedi helpu gyda dealltwriaeth y llysoedd teulu o gam-drin domestig.

Er hyn, mae rhai rhieni sydd wedi cael profiad o'r llysoedd teulu fel rhan o'r cynllun peilot wedi codi pryderon am y broses.

Pan mae rhieni wedi gwahanu ac yn anghytuno sut i rannu eu cyfrifoldebau gofal, mae eu hachos yn mynd i'r llysoedd teulu.

Fe all barnwr benderfynu ar faterion gan gynnwys gyda phwy fydd y plant yn byw, trefniadau gwyliau ac i ba ysgol fydd y plant yn mynd iddo.

Mae llysoedd teulu hefyd yn cynnal achosion gofal pan fydd awdurdod lleol yn pryderu bod plentyn mewn perygl o niwed.

Mae tua 46,000 o achosion cyfraith teulu preifat yn cael eu clywed yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn.

Cafodd cynllun peilot o'r enw 'Pathfinder' ei lansio mewn rhai achosion llys teulu yn 2022.

Mae'n ceisio datrys problemau rhwng rhieni yn gynt, a rhoi mwy o bwyslais ar glywed llais plant yn gynharach yn y broses.

Alex Davies-JonesFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Alex Davies-Jones bod Pathfinder yn helpu dealltwriaeth llysoedd teulu o gam-drin domestig

Dywedodd Ms Davies-Jones fod Pathfinder "yn bendant wedi helpu dealltwriaeth y llysoedd teulu o gam-drin domestig".

"Mewn gwirionedd doedd [cam-drin domestig] ddim yn cael ei ystyried, nid yn unig gan y llysoedd teulu, ond gan y llywodraeth a chymdeithas yn gyffredinol," meddai.

Cafodd y peilot ei gynnal yng ngogledd Cymru a Dorset yn gyntaf, cyn cael ei ehangu i Gymru gyfan, Birmingham a gorllewin Sir Efrog.

Fe wnaeth y gwerthusiad cyntaf o'r cynllun, yn seiliedig ar gyfweliadau â 67 o weithwyr proffesiynol rheng flaen yn y system llysoedd, ddatgelu fod llai o amser yn y llys o fudd i deuluoedd a'r system llysoedd, a bod llais y plentyn yn cael ei gydnabod.

Ond, roedd adnoddau a staffio yn her, yn ôl y gwerthusiad.

Ychwanegodd Ms Davies-Jones fod y gwerthusiad yn "wirioneddol allweddol wrth ddangos i ni beth sy'n gweithio, beth sydd angen ei addasu, a beth sydd angen ei wella".

Dywedodd y Comisiynydd Cam-drin Domestig, y Fonesig Nicole Jacobs, fod y gwerthusiad yn darparu "tystiolaeth glir y dylai'r llywodraeth gyflwyno'r dull hwn yn llawn ar draws pob llys teulu yng Nghymru a Lloegr".

Plentyn yn dal llaw oedolynFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gan newyddiadurwyr yr hawl i ohebu ar achosion mewn llys teulu yn dilyn rheolau newydd gafodd eu cyhoeddi'r llynedd, ar yr amod eu bod yn cadw'r manylion yn anhysbys.

Dilynodd y BBC un achos yn Llys Teulu Caerdydd lle yr oedd mam wedi gwneud honiadau o gam-drin domestig.

Cafodd hynny ei nodi mewn adroddiad cychwynnol ar yr effaith bosib ar y plentyn, a chafodd argymhellion eu nodi o ran trefniadau cyswllt gyda'r plentyn pe bai'r honiadau yn wir.

Daeth y barnwr i'r casgliad bod rheolaeth orfodol, cam-drin corfforol ac emosiynol wedi digwydd.

Dywedodd y fam wrth y BBC: "Roedd y llys yn cydnabod y gamdriniaeth, ac roeddwn i'n gwerthfawrogi gallu defnyddio mynedfeydd ar wahân a'r ystafell amddiffyn tystion.

"Ond dydi cam-drin ddim bob amser yn amlwg, gall ddigwydd mewn sawl ffordd, ac mae'n anodd paentio'r darlun llawn mewn llys."

Er yn cydnabod ei bod wedi derbyn cefnogaeth, dywedodd fod y broses yn "flinedig".

Achos 'gofidus'

Ar ôl sawl gwrandawiad, gofynnodd y tad am ganiatâd y llys i dynnu ei gais am drefniadau plant yn ôl.

Dywedodd y barnwr wrth y llys fod yr achos wedi bod yn "ofidus" a doedd y tad "ddim yn teimlo ei fod yn gallu ymgysylltu neu ei fod mewn sefyllfa ariannol i barhau â chynrychiolaeth".

Daeth y barnwr i'r casgliad y byddai'r plentyn yn byw gyda'r fam, heb unrhyw gyswllt gyda'r tad.

Dywedodd y byddai hyn yn darparu haen ychwanegol o amddiffyniad i'r fam ac y byddai angen i'r tad gwblhau rhaglen troseddwr cyn dychwelyd i'r llys, os oedd am barhau gyda'r achos yn y dyfodol.

Roedd rhiant arall oedd yn ymwneud ag achos oedd yn rhan o gynllun Pathfinder yn feirniadol o'r broses.

Dywedon nhw nad oedd cam-drin wedi'i nodi a bod yr achos wedi llusgo 'mlaen am flynyddoedd.

Nid oedd y BBC wedi dilyn yr achos hwn am resymau cyfreithiol felly does dim modd gwirio dogfennau'r llys.

Dywedodd y person: "Cafodd cam-drin domestig ei godi ond ei ddiystyru fel gwrthdaro yn unig, heb asesu rheolaeth orfodol yn briodol."

Dywedodd Davies-Jones fod y profiadau hyn yn "anodd iawn i'w clywed" ond bod rhan fwyaf y profiadau y maen nhw wedi'u clywed wedi bod yn "gadarnhaol".

Er hyn, fe wnaeth hi gydnabod bod angen ystyried barn y person hwnnw hefyd.

Dywedodd Davies-Jones y dylai pobl wybod "rydyn ni'n eich clywed chi, rydyn ni'n gwrando ac rydyn ni'n ceisio gwneud yn well".

Dywedodd y Gweinidog dros Lysoedd Teulu, yr Arglwydd Ponsonby y byddai Pathfinder yn parhau i gael ei gyflwyno ledled y wlad.

"Mae staff rheng flaen yn adrodd bod goroeswyr yn teimlo'n fwy diogel, a bod plant yn cael eu blaenoriaethu a'u diogelu'n well, a dyna'n union yr hyn rydyn ni'n gobeithio ei gyflawni ledled y wlad."

Pynciau cysylltiedig