Troseddu 'i lawr 14%' ar ôl arestio 180 mewn ymgyrch newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n dweud bod cwymp o 14% mewn troseddau yn un o drefi mwyaf difreintiedig Cymru yn dilyn cyflwyno cynllun newydd.
Mae dros 180 o bobl wedi eu harestio fel rhan o ymgyrch Adnewyddu yn nhref Y Rhyl ers ei ddechrau fis Ebrill y llynedd.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru mae sawl grŵp troseddol wedi eu chwalu, ac mae'n anoddach cael cyffuriau anghyfreithlon yn yr ardal.
Ond yn ogystal ag arestio, mae'r cynllun hefyd yn blaenoriaethu cynnig help i bobl sy'n gaeth i gyffuriau i roi'r gorau i'w defnyddio.
- Cyhoeddwyd15 Mai 2024
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2024
Mae gorllewin Y Rhyl yn ardal fach rhwng y stryd fawr, yr arfordir a'r bont las enwog dros Afon Clwyd.
Mae'n ardal sy'n aml yn ymddangos ar restrau o lefydd mwyaf difreintiedig Cymru, gyda lefelau trosedd sydd wedi bod yn rhoi enw drwg i'r dref yn annheg, meddai'r heddlu.
Dros y misoedd diwethaf, mae swyddogion wedi cynnal 35 o gyrchoedd fel rhan o gynllun Adnewyddu, sydd wedi chwalu grwpiau troseddol, medd y llu.
Mae rhagor o swyddogion wedi bod ar strydoedd y dref hefyd, ac mae'r heddlu wedi cynnal boreau coffi er mwyn rhoi cyfle i bobl leol rannu eu barn am sut i wella'r ardal.
Dywedodd y Prif Arolygydd Dave Cust bod pobl sy'n gaeth i gyffuriau "wedi bod yn dweud wrthym ni ar y strydoedd eu bod nhw'n methu cael cyffuriau achos ein bod ni wedi atal y cyflenwadau".
"Ond mae hwn yn teimlo'n wahanol iawn i ymgyrchoedd eraill yng ngorllewin Rhyl.
"Mae llawer o bobl sy'n defnyddio cyffuriau eisiau rhoi'r gorau i hynny ac mae rhoi cefnogaeth iddyn nhw yn rhan bwysig o'r cynllun a'u rhoi nhw mewn cysylltiad gyda'r bobl sy'n gallu helpu."
Yn wahanol i rai ymgyrchoedd, mae Adnewyddu wedi golygu cydweithio gyda grwpiau eraill yn yr ardal - y cyngor, bwrdd iechyd a busnesau.
Mae'r heddlu'n dweud bod hynny'n golygu bod pobl sy'n byw mewn tai lle mae grwpiau troseddol wedi cymryd drosodd er mwyn defnyddio'r eiddo i werthu cyffuriau - rhywbeth sy'n cael ei adnabod fel cuckooing - wedi cael help i adael yr ardal.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Owain Llewellyn bod y newid mewn strategaeth yn hollbwysig, "neu byddwn ni'n delio hefo'r un problemau yn y gymuned y flwyddyn nesaf, ac mewn pump neu ddeg mlynedd".
"Mae yn newid cyfeiriad, cydnabod bod rhai pobl sy'n gaeth, ac hyd yn oed rhai o'r gwerthwyr cyffuriau ar lefel isel yn bobl sy'n agored i niwed," meddai.
Ychwanegodd bod angen "cadw'r pwysau" ar dargedu'r rhai sy'n achosi niwed yn y gymuned, ac y byddai swyddogion yn parhau ar batrôl yng ngorllewin Y Rhyl.
"Mae lot o hyn yn dod i lawr i waith heddlua syml," meddai.
"Mae am fod allan yn y gymuned, sicrhau bod pobl yn gweld swyddogion o gwmpas ac adeiladu perthnasau.
"Ond tu ôl i'r llen, rydyn ni hefyd yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddara' i gadw ar ben y grwpiau troseddol sy'n dod â chyffuriau i'r dref."
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2024
Mae busnesau yn y dref wedi rhoi croeso gofalus i'r cynllun, er bod llawer wedi dweud bod angen i'r heddlu wneud mwy i daclo troseddu.
Dywedodd Mark Speakman o Funky Feet Records nad yw'n gweld "unrhyw wahaniaeth" ac nad yw'n gweld yr heddlu o gwmpas "gymaint ag y dylen ni".
"Un enghraifft - mae pobl yn hedfan i fyny a lawr y stryd yma ar sgwters, sy'n erbyn y gyfraith, ond dydy'r heddlu ddim yn gwneud dim amdanynt."
Mae angen i'r heddlu "gadw'r pwysau ar droseddau cyffuriau", meddai Vicky Welsman o elusen Blossom and Bloom.
"Ond dwi'n teimlo'n ddiogel yn dod i'r gwaith, ac yn ddiogel yn byw yn Y Rhyl.
"Mae teuluoedd yma yn flin pan mae Rhyl yn cael ei bortreadu'n wael, achos dydy o ddim yn lle drwg. Mae'r gymuned yn gryf yma - mae angen i bawb weithio hefo'i gilydd i adeiladu ar hynny."