'O'n i'n gwybod' - Chwaer Joshua Roberts yn cofio galwad 999
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o'r gogledd sy’n ateb galwadau 999 wedi disgrifio’r foment y dywedodd cydweithiwr wrthi am wrthdrawiad angheuol yn ymwneud â’i brawd.
Dywedodd Abi Lloyd Roberts, sy’n 25, wrth raglen Y Byd ar Bedwar bod ei "chalon wedi suddo" ar ôl cael gwybod bod dyn wedi cael ei daro a'i ladd ar yr A4085 yng Nghaeathro, Gwynedd.
Roedd hi’n ymwybodol bod ei brawd Joshua, 19, yn bwriadu cerdded adref ar hyd y ffordd honno.
Roedd cydweithiwr wedi cymryd yr alwad ychydig ar ôl 23:00 ar 2 Mehefin 2023.
Dywedodd Abi Lloyd Roberts wrth y rhaglen er nad oedd hi'n gwybod i sicrwydd mai ei brawd oedd y person a fu farw, roedd ganddi deimlad cryf bod rhywbeth o'i le a gadawodd ei shifft yn gynnar gan ei bod mor bryderus.
Dywedodd: “Suddodd fy nghalon, achos tua dwy awr ynghynt roedd Josh yn anfon neges destun atai yn dweud, 'Dwi'n cerdded adref' [ar yr A4085]."
Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru yn ddiweddarach i’r teulu fod Joshua wedi marw.
Dywedodd Abi: “Dydw i erioed wedi sgrechian cymaint yn fy mywyd.
“Achos, o’n i’n gwybod mai Josh oedd o, roeddwn i just angen rhywun i gadarnhau mai fo oedd o.
"Ond o'n i'n gwybod o'r eiliad y daeth yr alwad i mewn, a dwi ddim yn gwybod sut, ond o'n i'n gwybod."
Ym mis Medi 2023, dywedodd Melanie Tookey, mam Joshua, bod ei theulu yn "rhwystredig ac yn ofidus" oherwydd y diffyg gwybodaeth yr oedd yr heddlu wedi'i roi.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru ar y pryd eu bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r teulu wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio.
Pan gysylltodd BBC Cymru â Heddlu Gogledd Cymru ddydd Llun, dywedodd y llu fod yr ymchwiliad i'r farwolaeth bellach wedi dod i ben ac nad ydyn nhw'n "gallu gwneud sylw tra bod yr ymchwiliad gyda'r crwner”.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2023
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023