Arestio cannoedd wedi ymgyrch ar weithwyr anghyfreithlon

- Cyhoeddwyd
Mae mwy na 590 o bobl wedi cael eu harestio dan amheuaeth o weithio'n anghyfreithlon yng Nghymru rhwng Hydref 2024 a Medi 2025, meddai'r Swyddfa Gartref.
Dywed y Swyddfa Gartref fod hyn yn gynnydd o 98% ar y flwyddyn flaenorol ac roedd yn rhan o'r "ymgyrch fwyaf ar weithwyr anghyfreithlon ers i gofnodion ddechrau" ar ôl cynnydd mewn cyrchoedd mewnfudo ar fusnesau ledled y DU.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood y "bydd y sawl sy'n gweithio'n anghyfreithlon mewn salonau harddwch, yn golchi ceir ac fel gyrwyr yn cael eu harestio, eu cadw a'u symud o'r wlad hon".
Cadarnhaodd gweinidogion fod "mwy nag 8,000 o fewnfudwyr anghyfreithlon" wedi cael eu harestio ledled y DU o fewn y 12 mis diwethaf.
- Gweithredu ar Ynys Môn i geisio atal mewnfudo anghyfreithlon - Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
 
- Mwy o gamwybodaeth ar-lein yn trafod gwestai i geiswyr lloches - Cyhoeddwyd16 Medi
 
- Diffyg cymorth cyfreithiol ar fewnfudo yn 'artaith emosiynol' - Cyhoeddwyd20 Ebrill
 
Fel rhan o'r ymgyrch, cafodd saith o ddinasyddion Tsieineaidd eu harestio ar safle adeiladu ar y Gŵyr ar 14 Hydref.
Cafodd tri eu harestio mewn barbwr ym Mhorthmadog ar 12 Medi ac wyth eu harestio mewn warysau yng Nghil-y-Coed ar 5 Awst.
Arweiniodd yr ymgyrch genedlaethol at symud mwy na 1,050 o ddinasyddion tramor o'r DU dros yr un cyfnod.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn "ehangu gwiriadau hawl i weithio" i'r hyn a elwir yn economi gig "lle mae lefelau uwch o fewnfudwyr anghyfreithlon yn chwilio am waith".
Targedodd eu hymgyrch fusnesau sy'n aml yn dibynnu ar weithwyr achlysurol neu dros dro, gan gynnwys bwytai tecawê bwyd cyflym, salonau harddwch a gorsafoedd golchi ceir.
Dywedodd y Swyddfa Gartref eu bod yn anelu at "leihau'r economi ddu a chosbi cyflogwyr twyllodrus sy'n anwybyddu rheolau mewnfudo".
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood: "Mae gweithio anghyfreithlon yn creu cymhelliant i bobl sy'n ceisio cyrraedd y wlad hon yn anghyfreithlon. Dim mwyach".
"Gwnaf beth bynnag sydd ei angen i ddiogelu ffiniau Prydain."
'Mesurau perfformiadol'
Ymatebodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Yn amlwg, dylai gweithwyr anghyfreithlon a'r rhai sy'n eu cyflogi gael eu dwyn i gyfrif gan y gyfraith, ond nid yw mesurau perfformiadol a chyfleoedd i dynnu lluniau yn ateb i gamreoli parhaus yn y Swyddfa Gartref, y mae'r Ysgrifennydd Cartref yn cyfaddef 'nad yw eto'n addas at y diben'.
"Mae angen i'r Swyddfa Gartref ailwampio'r system brosesu lloches gyfan a sicrhau llwybrau mudo diogel a rheoledig i bobl sy'n gymwys i ddod i'r DU."
Dywedodd llefarydd ar ran plaid Reform fod y "ffigyrau hyn yn darlunio hanes llwm yr hen bleidiau ar fewnfudo a gweithio anghyfreithlon.
"Mae llywodraethau Llafur a Cheidwadol olynol wedi caniatáu i'r economi danddaearol ffynnu drwy fethu â rheoli ein ffiniau a mynd i'r afael â'r arferion hyn.
"Yr unig blaid sydd ag unrhyw hygrededd gyda'r cyhoedd ar roi terfyn ar hyn yw Reform."
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr mai "diferyn yn y môr ydy'r ffigwr yma o gymharu â'r 36,000 o bobl y mae Llafur wedi caniatáu i ddod mewn i'n gwlad yn anghyfreithlon eleni".
"Dim ond y Blaid Geidwadol sydd â chynllun difrifol i sicrhau ffiniau cryfach. Mae ein Cynllun Ffiniau yn barod i'w weithredu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.