Rosh Hashanah: Dathlu dechrau melys i flwyddyn newydd

Zoë gyda Siôn, ei gŵr, a'u plant, Hari a Beti, yn nathliad Batmitzvah Beti eleni
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n gyfnod o ddathlu Rosh Hashanah i Iddewon ledled y byd.
Eleni, mae'r ŵyl - sy'n un o wyliau pwysicaf y calendr Iddewig - yn para' o fachlud 22 Medi hyd hwyrnos 24 Medi.
Un sydd yn dathlu yw Zoë Tudur o Gaerdydd, ac yma mae hi'n egluro beth mae ei hoff ŵyl Iddewig yn ei olygu iddi hi:
Croeso i flwyddyn 5786!
Dyma'r flwyddyn newydd Iddewig, amser i adlewyrchu a dathlu beth 'dyn ni'n ei obeithio fydd yn ddechrau newydd, melys.
Mae Iddewiaeth yn dilyn calendr y lleuad, felly mae Rosh Hashanah ar ddyddiad gwahanol bob blwyddyn, ond bob tro tua mis Medi, ac yn para' deuddydd. Eleni byddwn ni'n croesawu'r flwyddyn 5786.
Yn y pen draw, dathlu cread Adda ac Efa mae Rosh Hashanah, y Dyn a'r Ddynes Gyntaf a'u rôl nhw o fewn y ddynoliaeth, fel a nodwyd gan Dd-w (dydyn ni ddim yn ysgrifennu Ei enw yn llawn, rhag ei gymryd yn ofer). Mae felly am y berthynas rhwng D-w a dyn.

Mae chwarae'r Shofar yn rhan bwysig o ddathliadau Rosh Hashanah
Mae 'na nifer o arferion crefyddol 'dyn ni'n cadw atyn nhw yn ystod Rosh Hashanah, ond mae yna hefyd nifer o draddodiadau 'dyn ni'n eu dilyn, a rhain yw'r pethau dwi'n eu hoffi.
Un o'r prif ddefodau yw gwrando ar gân y Shofar - sef corn maharen sy'n cael ei ganu yn y Synagog.
Mae'r Shofar yn cael ei chwythu wrth i'r haul fachlud ar noswaith olaf Rosh Hashanah fel cydnabyddiaeth o alwad y bobl i'w Brenin, ond hefyd fel cri o edifeirwch gan fod hyn yn nodi'r 10 diwrnod o edifarhau sy'n dilyn Rosh Hashanah.

Mae'r mêl ac afalau yn arwydd o'r gobaith am flwyddyn newydd felys
Fodd bynnag, mae hefyd elfennau eraill sy'n arwyddocaol i mi ar lefel bersonol.
I mi, mae Rosh Hashanah yn llawn arogleuon, blasau a thraddodiadau sydd nid yn unig yn f'atgoffa o fy mhlentyndod ond hefyd yn ategu fy hunaniaeth fel Iddewes, sydd yn hynod bwysig i mi.
Yn gyntaf, oherwydd yr adeg o'r flwyddyn, mae yna'n aml goncyrs a mes ar y llawr, sydd wastad yn fy atgoffa o Rosh Hashanah, ac fel yn ystod gwyliau eraill Iddewig, rydyn ni'n dathlu gyda'n teuluoedd a llawer o fwydydd blasus.
Dros y deuddydd, rydyn ni'n bwyta llawer o fwyd melys, sydd yn symbol o'r flwyddyn newydd felys rydyn ni'n gobeithio amdani - rydyn ni'n bwyta afalau gyda mêl wedi ei daenu drostyn nhw, ac yn rhannu cacennau mêl â chyfeillion.

Hari, Zoë, Beti a Siôn - mae plant Zoë yn mynd i'r Synagog yn lle mynd i'r ysgol, y diwrnod ar ôl dechrau Rosh Hashanah, lle bydd gwasanaethau arbennig
Fel arfer, rydw i, fy ngŵr a'n plant yn croesawu Rosh Hashanah yn nhŷ fy rhieni; does dim yn bwysicach i mi na phasio'r traddodiadau hyn sy'n rhan o Rosh Hashanah ymlaen i'm plant.
Rydyn ni'n cynnau canhwyllau, llefaru bendithion ac mae fy rhieni yn paratoi pryd ar gyfer ein teulu a ffrindiau er mwyn cael dathliad mawr. Fore drannoeth, byddwn ni'n mynd i'r Synagog.
Mae hi'n arfer i ddymuno blwyddyn newydd hapus a iach i bawb, felly fel y dywedwn ni, L'shana tova!
Cafodd fersiwn o'r erthygl yma ei chyhoeddi yn 2015.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2024