Gemau'r Ynysoedd: Wyth medal i dîm Ynys Môn

Ffion Roberts, o Lanfairpwll oedd y cyntaf i groesi'r llinell yn gyntaf yn y ras 400 medr i ferched
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm Ynys Môn yn dychwelyd i Gymru wedi ennill wyth medal yng Ngemau'r Ynysoedd.
Yn cael eu cynnal eleni yn Orkney, sicrhawyd dwy fedal aur ar y trac gyda thîm pêl-droed y dynion hefyd yn sicrhau arian wedi iddyn nhw golli 3-1 yn y rownd derfynol yn erbyn Bermuda brynhawn Gwener.
Ffion Roberts, o Lanfairpwll oedd y cyntaf i groesi'r llinell yn gyntaf yn y ras 400 medr i ferched gyda Beca Bown, 18 oed, o Llannerch-y-medd, yn cystadlu yn ei hail gemau, hefyd yn cipio aur yn y 1,500m.
Llwyddodd Ffion Roberts hefyd i ennill y fedal arian yn y 200 metr yn ogystal â'r tîm ras cyfnewid dynion 4x100m.

Roedd Beca Bown, 18 oed, o Llannerch-y-medd, yn cystadlu yn ei hail gemau
Sicrhawyd mwy o fedalau arian gan hwylwyr yr ynys, yn y gystadleuaeth tîm a hefyd Josh Metcalfe yn cystadlu'n unigol yn y categori ILCA7.
Tra yn y cystadlaethau gymnasteg, llwyddodd Calla Woodcock i ennill medal efydd ar y trawst.
Mae Môn, yr unig ynys o Gymru, wedi cystadlu ymhob un o gemau'r ynysoedd ers y cyntaf yn 1985.
Cynhelir y gemau nesaf ar Ynysoedd Ffaro yn 2027, ac yna Ynys Manaw yn 2029.
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd27 Mehefin
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2023
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.