Atgofion Mici Plwm yn 80: O Plwmsan i garchar Abertawe
- Cyhoeddwyd
Y DJ Cymraeg cyntaf, trefnydd gigs, cynghorydd, cyfarwyddwr theatr a'r actor tu ôl i un o gymeriadau plant mwyaf poblogaidd Cymru... mae Mici Plwm wedi gwneud ei farc mewn sawl maes.
Ond wrth iddo nodi ei ben-blwydd yn 80 eleni gyda chyfweliad ar raglen Beti a’i Phobol, dyma bum peth efallai nad oeddech chi’n gwybod amdano...
Cynghorydd ieuengaf Prydain
Mae’n gynghorydd tref Pwllheli ers 2011 ac fe’i etholwyd yn Faer y Dref yn 2021... ond tydi bod ar gyngor yn ddim byd newydd iddo:
“Pan o’n i’n 21 ac wythnos oed – ac roedd yn rhaid bod yn 21 adeg hynny i fod yn aelod o unrhyw gyngor – mi ro’n i yn aelod o gyngor plwyf Penrhyndeudraeth ac mi gafodd dipyn o hanes yn y wasg achos mai fi oedd y cynghorydd plwy' neu’r cynghorydd drwy wledydd Prydain ieuengaf erioed.”
Ei daid yn achub trysorau celf Prydain
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd ‘na bryder y byddai trysorau celf Prydain yn Llundain cael eu dinistrio gan fomiau’r Luftwaffe.
Felly fe gawson nhw eu symud o’r brifddinas i ogofâu yn chwareli Blaenau Ffestiniog.
Un o’r rhai oedd yn rhan o’r prosiect i warchod y gwaith celf oedd taid Mici Plwm, oedd yn gweithio i’r Weinyddiaeth Rhyfel.
“Roedden nhw’n dŵad fel y Ministry of War ac yn hawlio tai a chartrefi i’w staff, a’r dyn oedd yng ngofal hyn oedd Ernest Barnett Harrison," meddai Mici.
"Dyma fo’n dŵad a dod â’i wraig a’i ferch hefo fo... i fod yng ngofal y prosiect yma ar gyrion ‘Stiniog...
“Wedyn hogan 18 oed oedd ei ferch o, Daphne Eva Harrison, a Dad yn lafnyn yn y pentref a ma’ siŵr yn dweud ‘pwy di hon dw’ch?’
“Ta waeth mi ddaru nhw glicio ac wedyn fi ydi’r ail o bedwar o blant. Fel Taid a Nain Llundain o’n i’n cyfeirio atyn nhw - ar ôl y rhyfel wrth gwrs roedden nhw’n mynd yn ôl wedyn i Lundain.”
Hwyliodd ar y môr am y tro cynta'... o Boston i Ynys Môn mewn storm
Mae Mici Plwm yn hwyliwr profiadol erbyn hyn, ond doedd ei daith gyntaf ar y môr ddim yn un hawdd.
Roedd yr Urdd wedi hwylio drosodd i’r UDA er mwyn cyflwyno plac lechen i’r Cenhedloedd Unedig er mwyn nodi Neges Ewyllys Da'r mudiad.
Fe ofynnwyd i Mici - sydd efo cysylltiad agos gyda’r Urdd ers degawdau - a fyddai o’n fodlon bod yn rhan o’r tîm o 10 fyddai’n hwylio’r cwch yn ôl. Fe gytunodd, er mai dim ond ar Lyn Tegid roedd o wedi hwylio o’r blaen.
Meddai: “Mae o’n bell iawn... 3,082 o filltiroedd... a rhyw 900 milltir allan o Boston dyma ni’n dod ar ein pennau mewn i storm graddfa 10.
“Gale Force 10 - tonnau deugain troedfedd ac roedd hwnna’n para ddydd a nos a dwi’n cofio roedd rhyw dancar mawr ar ei ffordd i Nova Scotia yn galw ni fyny yn y dydd, a’r radio operator yn gofyn yn ei Saesneg carpiog ‘what are you doing on the lolly pop stick?’
“Dyna oedd o’n cymharu maint yr iot oedden ni arni 'de i gymharu efo fo
“Wir, wir, wir rŵan 'de, yng nghanol y storm yna, a dwi hyd heddiw yn credu, mi roedd ‘na rywun yn edrych ar ein holau ni heb os nac oni bai neu fasa ni ddim wedi dod drwyddi.
"Bobl bach ryw fil o filltiroedd o’r tir agosa' a dim ond storm, glaw, gwynt, drycin, a ‘hang on for dear life’ ond mi ddaethon drwyddi.”
Ei hyfforddiant fel trydanwr wnaeth arwain at ei rôl fel Plwmsan
Mae cenhedlaeth o blant Cymru yn adnabod Mici Plwm fel y cymeriad Plwmsan ‘twpach na thwp’ yn Teliffant a'r gyfres Anturiaethau Syr Wymff a Plwmsan.
Ond ar ôl gadael yr ysgol fe dreuliodd bedair blynedd yn gwneud prentisiaeth fel trydanwr gyda’r bwrdd trydan Manweb. Fe newidiodd ei fyd ar ôl gweld cyfaill iddo oedd yn gweithio yn y byd drama wnaeth sôn bod Cwmni Theatr Cymru yn chwilio am rywun efo’i sgiliau o...
Dywedodd: “Annwyl Meical Povey (y cyfarwyddwr, actor a’r awdur). Ei weld o ym Mhorthmadog a fo’n gofyn ‘hei ti’n nabod Mr Wilbert Lloyd Roberts?’. ‘Dwi di clywed amdano fo’ achos ro’n i wedi bod yn dechrau potshan efo Wil Sam yn Theatr y Cegin y Criccieth... a meddwl 'waw dwi’n licio hyn'.
“Ta waeth roedd Meical Povey wedi dweud wrtha i ‘mae Mr Roberts yn chwilio am bobl i helpu ar yr ochr dechnegol - ac i actio tameidiau’... a dyna chi.”
Fe gafodd ei garcharu... a’r barnwr yn anghofio amdano
Bu Mici Plwm yn protestio gyda Chymdeithas yr Iaith, gan gynnwys dringo i fyny mast teledu Llanddona fel rhan o’r ymgyrch dros gael sianel deledu Cymraeg.
Unwaith, ar ôl mynd i gefnogi aelodau eraill o’r mudiad oedd yn y llys, fe gafodd ddedfryd o garchar am amharu ar yr achos.
“Pan o’n i yn lle mae’r cyhoedd yn eistedd, a mae rhywun yn gweiddi ‘court will rise’ - dyma pawb yn codi ond Mici Plwm," meddai. "Wedyn pawb yn eistedd a finna’n codi ac wedyn dweud mewn llais tra uchel pam do’n i ddim wedi codi a’r peth nesa dyma twrw dau set o draed yn dŵad yn eu lifrau ac yn llusgo fi lawr y grisiau ac i’r celloedd ac ro’n i’n dal i floeddio fy araith fawr.
“Ta waeth daeth yr achos i ben a ro’n i dal yn y carchar yn Abertawe...
“Roedd y barnwr wedi dweud ‘Michael Lloyd Jones you’ll be brought before me after the duration of this trial and brought before me for further sentencing...’
“Bobl bach. Ond roedd o wedi mynd i Lundain i rwbath – wedi mynd adra a’ngadael i yno ac roedda nhw’n gorfod gollwng fi allan o garchar Abertawe trwy drws cefn mewn cywilydd.”
Bydd sgwrs Mici Plwm ar Beti a’i Phobol am 1800 dydd Sul 14 Gorffennaf, am 1800 dydd Iau 18 Gorffennaf ac ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd30 Mehefin