'Angen gweithredu argymhellion Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar frys'

AberdaronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae comisiwn wedi argymell dynodi cymunedau sydd â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg - fel Pen Llŷn - yn rhai o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alw am weithredu holl argymhellion adroddiad cyntaf comisiwn a gafodd ei ffurfio gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i amddiffyn y Gymraeg a'i chefnogi yn ei chadarnleoedd.

Fe gafodd adroddiad terfynol y Comisiwn Cymunedau Cymraeg - Grymuso cymunedau, cryfhau'r Gymraeg - ei gyhoeddi ym mis Awst y llynedd.

Daeth hynny ar ôl dwy flynedd o gasglu tystiolaeth am gymunedau sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg.

Dywed Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, fod angen i Lywodraeth Cymru "symud 'mlaen a gweithredu'r argymhellion yn gyfan ac ar frys".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio ar draws y llywodraeth" i ymateb i argymhellion y comisiwn, ac y bydd ymateb i'r adroddiad yn Eisteddfod yr Urdd.

Y Gymraeg yn wynebu 'argyfwng'

Cafodd y comisiwn ei sefydlu fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i ganlyniadau Cyfrifiad 2021.

Roedd hwnnw'n dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8%, sef tua 538,000 o breswylwyr arferol tair oed neu'n hŷn yng Nghymru.

Ond ar drothwy cyhoeddi ymateb y llywodraeth i argymhellion y comisiwn, mae Cefin Cambell yn dweud bod yr iaith yn wynebu "argyfwng", a dylid gweithredu cyn diwedd tymor y Senedd bresennol.

Yn Sir Gâr - sy'n rhan o'r ardal mae'n ei chynrychioli - bu cwymp yng nghanran y rheiny sy'n medru'r iaith o 50.3% yn 2001 i 43.9% yn 2011, ac yna i 39.9% yn 2021.

Mae'n galw am sicrwydd y bydd yr holl argymhellion yn cael eu gweithredu, yn enwedig y diffiniad o'r hyn mae'r comisiwn yn ei alw yn "ardaloedd dwysedd uwch".

"Ma' rhaid i ni gael rhyw syniad ble mae'r ardaloedd yma fel bod swyddogion a chynghorwyr a gwleidyddion yn gallu deall pa bolisïau sydd eu hangen," meddai.

Cefin Campbell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cefin Campbell eisiau sicrwydd y bydd holl argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn cael eu gweithredu'n llawn

Yn eu hadroddiad cyntaf mae'r comisiwn yn argymell dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch mewn cymunedau sydd â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg, ac i sicrhau mwy o ystyriaeth i'r Gymraeg mewn datblygiadau polisi.

Mae yna ddwy ffordd, yn ôl y Comisiwn, y gellid gneud hyn.

Y rhain yw bod y llywodraeth yn dynodi ardaloedd lle mae dros 40% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, a hefyd rhoi'r disgresiwn i awdurdodau lleol ddynodi ardaloedd penodol os yn briodol.

Un elfen bwysig yn yr adroddiad yw effaith y system gynllunio ar yr iaith, ac mae hyn yn cael ei drafod mewn adroddiad pellach a gafodd ei gyhoeddi ddechrau'r flwyddyn.

Mae'n argymell newidiadau fyddai'n gwella'r gefnogaeth statudol i'r iaith yn ei chadarnleoedd.

Dywed y Comisiwn bod angen "cryfhau a diwygio canllawiau ac ystyried effaith y gall polisïau a chanllawiau cynllunio gwlad a thref ei gael ar yr iaith Gymraeg".

Nia Gruffydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Nia Gruffydd yn dweud fod "dirfawr angen mabwysiadu'r adroddiad a'r argymhellion"

Ar hyn o bryd mae yna gwyno nad oes digon o eglurder er mwyn gwarchod yr iaith wrth gynllunio, a galw am fwy o arweiniad.

Mewn ardaloedd fel Dinas ger Caernarfon - lle mae yna ddadlau wedi bod yn ddiweddar ynglŷn â datblygu tai - mae galw am weithredu, yn ôl y ynghorydd Nia Gruffydd - cadeirydd Cyngor Cymuned Llanwnda.

"Dwi'n meddwl fod dirfawr angen mabwysiadu'r adroddiad a'r argymhellion er lles yr iaith a'n cymunedau Cymraeg ni," meddai.

Un argymhelliad gan y comisiwn yw trin cadarnleoedd y Gymraeg mewn modd tebyg i ardaloedd cadwraeth, wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

Owain Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe all cynllunio "chwarae rhan bositif a gwarchodol" wrth geisio cyflawni targedau'r Gymraeg 2050, medd Owain Wyn

Mae Owain Wyn yn gynllunydd siartredig sydd â phrofiad helaeth yn y berthynas rhwng cynllunio defnydd tir a chynllunio ieithyddol.

Dywedodd: "Wrth ymateb i argyfyngau newid hinsawdd a natur mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarn ar sut y dylai'r system gynllunio gyfrannu at yr ymateb.

"Mae argymhellion y comisiwn yma yn mynd i'r un cyfeiriad ond hefyd yn gofyn sut mae'r system gynllunio defnydd tir yn mynd i gyfrannu at dargedau Cymraeg 2050.

"Fe all cynllunio chwarae rhan bositif yn ogystal â gwarchodol."

Gwion Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen cysoni'r canllawiau cynllunio ar draws Cymru, yn ôl Gwion Lewis

Roedd Gwion Lewis yn rhan o'r gwaith o baratoi'r adroddiad cynllunio.

"Ma' bwlch anferthol ar hyn o bryd o safbwynt y maes cynllunio," meddai.

"'Da ni ddim wedi gwneud digon o waith yn y maes i sicrhau fod y gyfraith a'r maes polisi yn briodol ar gyfer yr heriau ma' cymunedau Cymraeg yn wynebu."

Mae Mr Lewis yn dweud bod angen cysoni'r canllawiau cynllunio ar draws Cymru, ond dyw hynny ddim yn golygu na fydd modd bwrw 'mlaen â chynlluniau datblygu.

"Nid stopio pobl rhag adeiladu pethau ydy nod y polisi," meddai.

"Mae hi'n bosib cael datblygiadau yng Nghymru sydd yn arwain at bethau manteisiol iawn o ran y Gymraeg.

"Mae angen cysoni'r canllawiau i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd pan fo datblygiadau yn cael eu cynnig."

Pryder am gynyddu biwrocratiaeth

Ond mae pryder y gallai'r argymhellion gynyddu biwrocratiaeth a rhoi straen ar adrannau cynllunio sydd eisoes dan bwysau.

Dywedodd llefarydd ar ran ffederasiwn adeiladwyr tai yr FHB: "Mae'r broses gynllunio eisoes yn gofyn am falans rhwng nifer o ffactorau ac mae'r effaith ar yr iaith Gymraeg yn un ohonyn nhw.

"Mae ychwanegu anghenion technegol i'r broses gynllunio yn debygol o gynyddu'r oedi er mwyn cyflenwi tai newydd, pan mae eu hangen yn fawr.

Mae Dr Jeff Smith, cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i "weithredu'n gadarn ac yn gyflym".

"Dydy diffyg gweithredu'r llywodraeth ddim wedi cyfateb â'r argyfwng sy'n wynebu ein cymunedau," meddai.

"O ystyried ei faint a phwysigrwydd, ni all ein cymunedau aros ragor - mae angen gweithredu nawr."

Mae'r Comisiwn wrthi nawr yn paratoi adroddiad arall, fydd yn edrych ar ddyfodol y Gymraeg mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, lle nad yw hi'n iaith gymunedol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad y Comisiwn ac rydym wedi gweithio ar draws y llywodraeth i ymateb i'r argymhellion.

"Bydd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford, yn ymateb i'r adroddiad yn Eisteddfod yr Urdd ar 29 Mai."