Diswyddo uwch-arolygydd heddlu ar ôl achosion o gamymddwyn

Roedd gweithredoedd Mr Davies yn "bygwth delwedd plismona", meddai'r panel disgyblu
- Cyhoeddwyd
Mae uwch-arolygydd Heddlu Dyfed-Powys wedi cael ei ddiswyddo heb rybudd ar ôl i banel mewn gwrandawiad camymddwyn benderfynu bod sail i'r cwynion yn ei erbyn.
Roedd Gary Davies, 58 oed o Ben-y-bont a'r Ogwr, yn wynebu pump o gyhuddiadau oedd yn ymwneud ag ymddwyn yn amhriodol tuag at aelodau benywaidd o staff ac ymddwyn mewn ffordd misogynistaidd rhwng 2017 a 2021.
Mewn gwrandawiad ym Mhencadlys Heddlu Dyfed-Powys yn Llangynnwr ddydd Gwener, dywedodd cadeirydd y panel, Oliver Thorne, fod pedwar cyhuddiad gyfystyr â chamymddwyn difrifol, ac un gyfystyr â chamymddygiad yn y gweithle.'
Mae Mr Davies wedi ei atal rhag bod yn swyddog heddlu a gweithio i unrhyw lu heddlu am o leiaf bum mlynedd.

Doedd Gary Davies ddim yn bresennol yn y gwrandawiad ddydd Gwener
Mewn gwrandawiad bythefnos o hyd, clywodd y panel honiadau fod Mr Davies wedi cyffwrdd â dwy gydweithwraig mewn parti Nadolig heb eu caniatâd na'u gwahoddiad.
Fe glywodd y panel hefyd iddo anfon negeseuon at gydweithwraig benywaidd yn gofyn iddi redeg i ffwrdd gydag ef.
Roedd honiadau hefyd fod Mr Davies yn gwneud i fenywod deimlo wedi'u heithrio yn y gweithle - gan gynnwys gwahardd cydweithwyr benywaidd o gyfarfodydd a bod yn ddiystyriol o'u barn.
Clywodd y panel honiadau fod yr uwch-arolygydd ar y pryd wedi cymharu cydweithwyr benywaidd â cheir moethus fel "Rolls Royce" a "Porsche" a'i fod wedi gwneud sylwadau rhywiol amhriodol am aelodau staff benywaidd.
Er bod Mr Davies wedi gwadu fod ei weithredoedd honedig yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol yn ystod y gwrandawiad, roedd y panel yn anghytuno.
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
Dywedodd cadeirydd y panel, Oliver Thorne, fod difrifoldeb y rhan fwyaf o'r cyhuddiadau yn enghreifftiau o gamymddwyn difrifol sef cyffwrdd ag aelodau benywaidd o staff mewn parti Nadolig, gwneud i fenywod deimlo wedi'u heithrio o'r gweithle a gwneud sylwadau rhywiol amhriodol.
Penderfynodd y panel fod yr honiad o anfon negeseuon testun yn gofyn i gydweithwraig benywaidd redeg i ffwrdd gydag ef yn enghraifft o gamymddygiad yn y gwaith.
Wrth adrodd casgliadau'r panel, dywedodd Mr Thorne, fod y menywod wedi profi "niwed uniongyrchol", a nododd y panel fod yr hyn a wnaeth yn achosi "niwed difrifol" i blismona hefyd.
"Roedd ei weithredoedd yn fwriadol, roedd yn teimlo ei fod yn medru ymddwyn y ffordd roedd e eisiau oherwydd ei rôl uwch," meddai'r cadeirydd.
'Achos difrifol'
Ychwanegodd Mr Thorne fod Mr Davies wedi cam-drin ei safle yn y gwaith a bod yr achos yn "un difrifol" a oedd yn cynnwys "gwahaniaethu anghyfreithlon".
Cafodd yr uwch-arolygydd ei ddiswyddo heb rybudd ym Mhencadlys Heddlu Dyfed Powys, ond doedd e ddim yn bresennol i glywed y canlyniad.
Yn ôl cadeirydd y panel, roedd gweithredoedd Mr Davies yn bygwth delwedd plismona a nodwyd fod awdurdod arweinwyr wedi cael ei danseilio.
Dywedodd y bargyfreithiwr Mr Davies, Mr Gerrard Boyle KC, nad oedd Gary Davies yn "teimlo'n ddigon da i fod yn bresennol".