814 o alwadau brys porffor yn ystod mis cyntaf arbrawf ambiwlans

Mae'r categori porffor newydd ar gyfer cleifion sydd wedi cael ataliad y galon neu wedi stopio anadlu
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd 814 o alwadau eu cofnodi o fewn categori newydd ar gyfer yr achosion mwyaf brys i'r gwasanaeth ambiwlans yn ystod mis cyntaf yr arbrawf.
Mae'r categori Arestiad Porffor, a ddaeth i rym ar 1 Gorffennaf, ar gyfer cleifion mewn ataliad cardiaidd neu anadlol.
Roedd 2.3% o'r holl alwadau i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod Gorffennaf yn alwadau categori porffor.
O'r achosion ble bu ymgais i adfywio'r claf, roedd curiad y galon wedi'i adfer yn achos 21.4% erbyn iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty.
Mae cyfradd y rhai sy'n goroesi ataliad tu hwnt i ysbyty yn llai na 5% yng Nghymru ar hyn o bryd, sy'n hanner y ganran yn Lloegr a'r Alban.
Y disgwyliad gan Lywodraeth Cymru yw y bydd ambiwlansys yn ymateb i alwadau Arestiad Porffor, ynghyd â galwadau Brys Coch, mewn cyfartaledd o chwech i wyth munud.
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
Mae ystadegau diweddaraf y gwasanaeth hefyd yn dangos bod 794,500 o bobl yn aros am driniaeth yng Nghymru ym mis Mehefin - gostyngiad o 2,100.
Fe gwympodd y nifer sy'n aros am dros ddwy flynedd i ryw 7,400 - y lefel isaf mewn pedair blynedd - er mae data mis Gorffennaf hyd yn hyn yn awgrymu bod y ddau ffigwr ar gynnydd.
Roedd y prif weinidog Eluned Morgan eisoes wedi rhybuddio y byddai nifer y rhai sydd wedi aros dros ddwy flynedd "o gwmpas 8,000" erbyn y gwanwyn, ond roedden nhw'n uwch ym misoedd Ebrill a Mai.
Dyma'r tro cyntaf i'r nifer fod yn is na 8,000.
Ond roedd yna waethygiad ym mherfformiad Cymru o ran y targed i gleifion ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o'r amheuaeth eu bod â chanser - fe gwympodd i 60.2% ym Mehefin.
'Hyderus y bydd gostyniadau pellach'
Dywedodd yr ysgrifennydd iechyd Jeremy Miles bod y llywodraeth yn "disgwyl gweld rhai amrywiadau yn nifer yr arosiadau hir o fis i fis".
Mae hynny, meddai, yn "adlewyrchu'n rhannol yr amrywiad yn y niferoedd a ddaeth ar y rhestr ddwy flynedd yn ôl".
Ychwanegodd ei fod "hyderus y bydd gostyngiadau pellach sylweddol erbyn diwedd y chwarter nesaf ym mis Medi, gan ein cadw ar y trywydd iawn gyda'n cynllun i ostwng yr arosiadau hiraf".
Ychwanegodd bod byrddau iechyd Cymru'n "gweithio'n galed iawn i leihau amseroedd aros ac rwy'n gallu gweld effaith hyn yn niferoedd y triniaethau ychwanegol sy'n cael eu cynnal".
"Mae angen inni wneud yn siŵr bod hyn yn parhau dros y misoedd i ddod."

Mae ysbytai yn cynnal clinigau ychwanegol mewn ymgais i leihau rhestrau aros am driniaeth
Mae'r data newydd y galwadau Arestiad Porffor yn rhoi gwybodaeth hefyd ynghylch hyd yr amser ar gyfartaledd cyn y mae atebwyr galwadau 999 yn dechrau rhoi cyfarwyddiadau CPR i'r person ar ben arall i'r lein.
Mae'n dangos bod CPR wedi dechrau o fewn pedwar munud ar gyfartaledd, a diffibriliwr yn cael ei ddefnyddio o fewn pum munud a hanner.
Yn ystod mis cyntaf y drefn newydd, roedd ambiwlans wedi cyrraedd ar gyfartaledd o fewn saith munud 35 eiliad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Awst
- Cyhoeddwyd18 Mehefin