Peiriant cynaeafu'n wenfflam yn Sir Gaerfyrddin
Mae cerbyd amaethyddol wedi ei ddinistrio yn llwyr ac adeilad wedi ei ddifrodi yn dilyn tân yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yng Ngelli Aur am 18:37 nos Fercher yn dilyn adroddiadau bod cerbyd ar dân.
Cafodd y peiriant cynaeafu ei ddinistrio yn llwyr gan y tân, ond nid oed adroddiadau bod unrhyw un wedi eu hanafu.