Gwyliwch: Tân gwair mawr yn llosgi yng Ngheredigion

Mae tanau gwair wedi bod yn llosgi yng Ngheredigion ers sawl diwrnod, gyda chynghorwyr yn dweud bod hi'n "amser pryderus" i'r ardal.

Mae tân mawr yn ardal Cwm Rheidol, a rhai eraill yn y mynyddoedd yn ardaloedd Ystrad Fflur a Ffair-rhos hefyd.

Mae criwiau tân o sawl ardal wedi bod yno'n cynorthwyo gyda cheisio rheoli'r fflamau, ac wedi bod wrthi ers dwy noson bellach.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi bod yn brysur yn delio gyda thanau gwair ar draws y canolbarth a'r de dros nos.