Y Swifties yn heidio i Fôn wrth i'r gantores ddod i Gymru

Mae siop ym Môn wedi bod yn gyrchfan hynod o boblogaidd i ‘Swifties’ – cefnogwyr brwd y gantores Taylor Swift yn sgil ei thaith ‘Eras’ yn y DU.

Nos Fawrth fe fydd hi yn canu yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd.

Mae siop y ‘Mock Turtle’ ym Miwmares wedi neilltuo adran gyfan i nwyddau cysylltiedig â hi ac yn fuan dywed y perchennog ei bod yn gobeithio agor caffi unigryw gan ddarparu te pnawn ar thema Taylor Swift.

Abi Evans o’r siop fu’n dweud am y diddordeb.