Iolo Williams: 'Angen blaenoriaethu addysg awyr agored'
Mae canllawiau newydd sy'n gosod fframwaith i athrawon ar gyfer dysgu yn yr awyr agored wedi eu lansio ddydd Gwener.
Maen nhw'n targedu addysg plant a phobl ifanc rhwng 3 a 25 oed ac yn cael eu defnyddio gan ysgolion, colegau, gwasanaethau ieuenctid a chlybiau.
Ond mae'r naturiaethwr Iolo Williams yn dweud ei fod yn "siomedig" nad oedd gwleidyddion wedi mynychu'r gynhadledd lansio.
Yn ôl Llywodraeth Cymru dydy gweinidogion ddim yn gallu mynychu "pob digwyddiad y gwahoddir hwy iddo oherwydd ymrwymiadau eraill yn eu dyddiaduron".