System dychwelyd i'r dosbarth yn rhoi 'hyblygrwydd'
Bydd plant blynyddoedd 7, 8 a 9 - sef blynyddoedd ieuengaf ysgolion uwchradd - yn cael dychwelyd i'r ysgol i gwrdd ag athrawon cyn gwyliau'r Pasg, meddai'r Gweinidog Addysg.
Dywedodd Kirsty Williams mai'r nod yw "rhoi cyfle i ddysgwyr gael sgwrs â'r athrawon, er mwyn rhoi sylw i'r cymorth sydd ar gael ar gyfer eu lles, a gwneud yn siŵr eu bod yn barod i ddychwelyd i'r ysgol yn llawn ar ôl gwyliau'r Pasg".
Yn ôl pennaeth Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, Bronwen Hughes, mae'r penderfyniad yn rhoi "hyblygrwydd" i ysgolion dderbyn disgyblion yn gynt os ydy hynny'n ddiogel.
"Fi fedrwn ni check-in, siarad efo nhw, treulio amser ar eu hiechyd a'u lles, a jest sicrhau ein bod ni'n cysylltu gyda nhw, a'u paratoi nhw yn barod i ddychwelyd yn llawn amser ar ôl y Pasg," meddai wrth raglen Dros Frecwast.