Cynllun ail gartrefi'r llywodraeth yn 'rhagrithiol'
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ail gartrefi yng Nghymru wedi cael eu beirniadu am fod yn "wan" a "di-gyfeiriad".
Mae newidiadau i drethi lleol a rheolau cynllunio ymysg y newidiadau y mae'r llywodraeth yn eu hystyried i fynd i'r afael â'r mater.
Bydd y llywodraeth yn dewis ardal o Gymru i dreialu'r polisïau newydd mewn ymdrech i "ddod â thegwch yn ôl i'n marchnad dai".
Ond mae Plaid Cymru ac eraill wedi beirniadu'r cynlluniau, gan ddweud nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell a bod diffyg manylion.
Dywedodd cadeirydd Cyngor Tref Nefyn, Rhys Tudur wrth Dros Frecwast bod diffyg cynllun gweithredu clir. "Mae'r rhagrithiol mewn gwirionedd," meddai.