ASau yn annog ymyrraeth i achub cwmni Peacocks

  • Cyhoeddwyd
PeacocksFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae trafodaethau i ganfod atebion gyda'r banciau, hyd yma wedi methu

Mae Aelodau Seneddol Llafur Cymru sy'n pryderu am gwmni Peacocks wedi galw ar Ysgrifennydd Busnes San Steffan i gymryd camau i achub y cwmni.

Mewn llythyr at Vince Cable, mae'r ASau yn rhybuddio y gallai'r cwmni Cymreig gael eu gorfodi i'w rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr am "fod banciau yn gwrthod darparu cyfalaf pellach".

Mae Peacocks yn cyflogi dros 400 o bobl yng Nghaerdydd a dros 10,000 ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae'r cwmni yn cynnal trafodaethau am ddyledion sydd dros £240 miliwn.

Mewn ymateb dywedodd Adran Busnes San Steffan fod y llywodraeth yn cymryd camau i gynorthwyo siopau drwy amrywiol ffyrdd.

Cyhoeddwyd ddydd Mawrth fod gan Peacocks 10 niwrnod i ganfod buddsoddwr newydd cyn y byddan nhw'n cael eu rhoi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Mae trafodaethau gyda benthycwyr, sy'n cynnwys y Royal Bank of Scotland a Barclays, hyd yma wedi methu.

Ymholiadau

Mae 26 o ASau Llafur Cymru mewn ardaloedd lle mae Peacocks yn gyflogwr allweddol, wedi arwyddo'r llythyr.

Mae'n gofyn sawl cwestiwn gan gynnwys pa drafodaeth sydd wedi ei gynnal rhwng Llywodraeth San Steffan a'r cwmni a'r buddsoddwyr.

"Fe fyddem yn apelio arnoch i wneud ymholiadau yn syth i faterion ariannol y cwmni, statws masnach a pherthynas y cwmni gyda'r RBS, banc y mae'r wladwriaeth yn berchen ar y rhan fwyaf ohono (80%)," meddai'r llythyr.

"Rydym yn credu bod y problemau y mae'r cwmni yn eu hwynebu, yn rhannol, oherwydd y penderfyniadau economaidd y mae'r llywodraeth glymblaid wedi eu gwneud, yn benodol y penderfyniad i gynyddu TAW...

"Rydym yn galw arnoch chi i gydnabod hyn ac i annog y Canghellor a chyd-aelodau yn y cabinet i gyflwyno cynllun tyfiant a fyddai yn adfer hyder cwsmeriaid a rhoi hwb i'n siopau stryd fawr, gan gynnwys Peacocks."

Adolygiad

Blaenoriaeth yr ASau medden nhw oedd sicrhau na fyddai'r cwmni yn cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ac y byddai miloedd o swyddi yn cael eu gwarchod.

"Mae hi'n amser pryderu i'r unigolion, teuluoedd a chymunedau sy'n cael eu heffeithio gan y newyddion am Peacocks," meddai llefarydd ar ran Adran Busnes San Steffan.

"Mae'r llywodraeth yn cymryd camau i gynorthwyo siopau drwy gwtogi Yswiriant Cenedlaethol, rhoi cymorth trethi i siopau bach a chynnal polisi cynllunio canol trefi.

"Yn gynharach yn y mis fe wnaeth Mary Portas gyhoeddi adolygiad fydd yn cynnig gweledigaeth glir sut y gallwn greu canol trefi amrywiol a bywiog a rhoi bywyd yn ôl i'r stryd fawr.

"Fe fydd y llywodraeth yn ystyried yr argymhellion a byddwn yn ymateb yn y gwanwyn sut i symud ymlaen a helpu ein siopau a siopwyr sy'n chwarae rhan allweddol yn ein heconomi."

Mae 'na dros 600 o siopau Peacocks yn y DU ac 117 arall drwy'r byd.

Er bod y cwmni yn dal i wneud elw mae ganddyn nhw ddyledion sylweddol sy'n deillio o 2006 pan wnaeth y rheolwyr brynu'r cwmni.

Mae Gweinidog Busnes Cymru, Edwina Hart, wedi dweud ei bod yn trafod gyda Llywodraeth San Steffan am drafferthion Peacocks.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol