Carwyn: 'Dim byd i'w guddio'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw beth i'w guddio yn achos elusen Awema sydd wedi bod dan y lach.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canlyniadau adroddiad am Gymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan (Awema) ddydd Iau.
Mae hyn wedi honiadau o gamreoli ariannol.
Ychwanegodd Mr Jones y byddai adroddiad gomisiynwyd yn 2003 am yr elusen yn Abertawe hefyd yn cael ei gyhoeddi.
'Risg uchel'
Roedd Prif Was Sifil Cymru, Y Fonesig Gillian Morgan, wedi dweud yr wythnos ddiwethaf y dylai'r elusen fod wedi ei dynodi'n "risg uchel".
Yn y cyfamser, mae cyllid Llywodraeth Cymru i'r elusen wedi cael ei atal am y tro.
Mae Aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau wedi galw am gyhoeddi'r ddau adroddiad yr un pryd.
Wrth ateb cwestiynau yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Jones nad oedd yn glir a oedd adroddiad 2003 eisoes wedi cael ei gyhoeddi ond y byddai'n cael ei gyhoeddi.
Ychwanegodd y byddai ei lywodraeth yn cynnal ymchwiliad "dysgu gwersi."
Atebolrwydd
Wrth alw am gyhoeddi adroddiad 2003, gofynnodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams: "Beth sydd gan eich llywodraeth i' guddio?"
Atebodd Mr Jones: "Does gennym ddim byd i'w guddio gerbron pobl Cymru."
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, fod yr adroddiad fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau wedi ymchwiliad gyda Chronfa'r Loteri Fawr yn ystyried sut y mae arian cyhoeddus wedi cael ei wario a beth oedd yr atebolrwydd.
Bydd y canlyniadau'n cael eu rhannu gyda Swyddfa Archwilio Cymru, y Comisiwn Elusennau a Heddlu De Cymru.
Dywedodd AC Plaid Cymru, Rhodri Glyn Thomas: "Y cwestiwn mawr yw hyn - ydy hwn yn sefydliad y gellir ymddiried ynddo i ddosbarthu arian cyhoeddus mewn modd sy'n dryloyw ac atebol?"
Ychwanegodd bod modd o bosib ddiwygio'r elusen ond bod rhaid i Lywodraeth Cymru ofyn a oedd hi'n addas i'w phwrpas yn ei ffurf bresennol.
'Bod yn onest'
Mae cadeirydd Awema, Dr Rita Austin, wedi amddiffyn yr elusen, gan ddweud bod ymdriniaeth y cyfryngau yn ei hatgoffa o'r "dull traddodiadol o ddiraddio a dibrisio cyfraniad pobl o leiafrifoedd ethnig".
Dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar AC: "Mae llawer o'r feirniadaeth wedi dod o'r cymunedau lleiafrifoedd ethnig eu hunain - byddai'n anhygoel pe bai'r rhain yn defnyddio'r 'cerdyn hiliol' yn erbyn eu cymunedau eu hunain.
"Bydd pobl yn meddwl beth sydd gan Llywodraeth Cymru i'w guddio drwy beidio â chyhoeddi'r adroddiad yna.
"Fe fydd o les i bawb eu bod yn dryloyw am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn Awema, ac i fod yn onest os nad ydyn nhw wedi gweithredu wedi beirniadaeth adroddiadau blaenorol."
Mae Llafur wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o geisio "taflu baw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2012