Llundain 2012: Tocynnau stadiwm y Mileniwm ar werth
- Cyhoeddwyd
Bydd tocynnau ar gyfer camp gyntaf y Gemau Olympaidd a gynhelir yn Stadiwm y Mileniwm yn mynd ar werth ddydd Mercher.
Bydd y stadiwm yn cynnal 11 gêm gan gynnwys yr ornest rhwng tîm pêl droed menywod Prydain Fawr yn erbyn Seland Newydd ar Orffennaf 25.
Bydd y tocynnau yn cael eu gwerthu ar wefan am 11.00am a'r cyntaf i'r felin gaiff falu yn ôl trefnwyr y Gemau Olympaidd, LOCOG.
Dywedodd rheolwr Stadiwm y Mileniwm, Gerry Toms, fod y gwerthiant yn "newyddion gwych" i bobl oedd wedi methu â phrynu tocynnau ar gyfer y gemau Olympaidd hyd yn hyn.
Ymysg y gemau fydd yn cael eu cynnal yn y stadiwm rhwng Gorffennaf 25 ac Awst 10 yw'r ornest rhwng tîm pêl-droed dynion Prydain Fawr ag Uruguay ar Awst 1.
Bydd cefnogwyr pêl-droed hefyd yn cael y cyfle i wylio Brasil yn chwarae yn erbyn Yr Aifft yng Nghaerdydd ar Orffennaf 26.
Dywedodd Mr Toms y byddai dilynwyr pêl-droed am fod yn "rhan o'r Gemau Olympaidd cyntaf i gael ei gynnal yng Nghymru".
Bydd pencampwriaeth pêl-droed y Gemau Olympaidd yn cael ei chynnal mewn chwe stadiwm gan gynnwys Stadiwm y Mileniwm.
Dywed Locog fod nifer o docynnau ar gael ym mhob un o'r chwe lleoliad.
Gall pobl brynu rhwng 20 a 30 o docynnau ar gyfer y bencampwriaeth bêl-droed.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mai 2012
- Cyhoeddwyd18 Mai 2012
- Cyhoeddwyd10 Mai 2012