Trafferthion G4S ddim yn effeithio ar Stadiwm y Mileniwm

  • Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Stadiwm y Mileniwm fydd yn cynnal digwyddiad cyntaf y Gemau Olympaidd ar Orffennaf 25

Mae rheolwr Stadiwm y Mileniwm wedi dweud na fydd trafferthion cwmni diogelwch G4S yn effeithio ar y stadiwm.

Caerdydd sy'n cynnal digwyddiad cyntaf y Gemau Olympaidd ar Orffennaf 25 ac mae wedi dod i'r amlwg nad yw G4S wedi recriwtio a hyfforddi digon o staff ar gyfer y gemau.

Ond dywedodd Gerry Toms ei fod wedi cytuno â threfnwyr Gemau Llundain 2012, LOCOG, i ddefnyddio stiwardiaid y stadiwm eu hunain.

Mae Aelod Seneddol Canol Caerdydd, Jenny Willott, wedi dweud bod cynlluniau manwl eisoes yn eu lle.

Milwyr

Bydd rhaid anfon 3,500 o filwyr i weithio yn y gemau wedi trafferthion G4S.

Bydd Caerdydd yn cynnal gemau pêl-droed merched Olympaidd ddeuddydd cyn y seremoni agoriadol yn Llundain.

"Nid yw'n effeithio arnon ni - rydym mewn sefyllfa unigryw," meddai Mr Toms.

"Pan drafodon ni drefniadau fe gytunwyd y byddai stiwardiaid Stadiwm y Mileniwm yn chwilio'r dorf o dan oruchwyliaeth LOCOG.

"Mae uned o'r heddlu bob tro'n bresennol yn y stadiwm ac fe fydd heddweision yno."

'Wrth gefn'

Dywedodd Ms Willott o'r Democratiaid Rhyddfrydol fod swyddogion yng Nghaerdydd wedi bod yn ymwybodol "ers tro" na fyddai G4S o bosib yn gallu hyfforddi pawb mewn pryd.

"Mae'n ymddangos bod ganddyn nhw gynlluniau wrth gefn yn eu lle ers tro," meddai.

"Rwy'n credu mai cyfuniad o'r heddlu a'r fyddin fydd yno."

Dywedodd Heddlu De Cymru mai darparu gemau diogel oedd y flaenoriaeth.

"Mae swyddogion Heddlu'r De yn cefnogi cynllun diogelwch LOCOG drwy ddarparu swyddogion i ategu'r trefniadau sydd mewn lle," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd G4S eu bod yn wynebu colled o hyd at £50 miliwn wedi iddyn nhw gyfaddef nad oedden nhw wedi recriwtio digon o swyddogion i gyflawni eu cytundeb ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol