Yr heddlu yn holi gyrwyr wrth barhau i chwilio am April Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n chwilio am April Jones wedi bod yn holi gyrwyr yn ardal Machynlleth.
Fe ddiflannodd y ferch bump oed o du allan i'w chartref yn y dref dros wythnos yn ôl.
Nos Lun roedd yr heddlu yn stopio gyrwyr ar yr A487 ger Pont Ddyfi ac ar yr A489 yn y gobaith y byddai gyrwyr yn cofio manylion pwysig.
Bore Mawrth roedd yr heddlu'n holi gyrwyr oedd yn teithio'n rheolaidd ar y ffyrdd.
Mae 'na 18 o dimau'r heddlu yn parhau i chwilio'r ardal.
Nos Lun ar gais teulu April cafodd cannoedd o lusernau eu cynnau a balŵns pinc eu gollwng i'r awyr.
Fe ddigwyddodd hyn union wythnos i'r awr y cafodd y ferch ei chipio.
Roedd digwyddiadau tebyg yn Aberystwyth ac yn Nhywyn rhwng 7pm a 7.30pm.
Credir bod tua 400 ar y prom yn Nhywyn.
Ymddangosid Llys
Am 7pm fe gafodd Tŵr Blackpool ei oleuo'n binc.
Mae'r chwilio am April yn canolbwyntio ar Afon Dyfri gyda thua 100 o swyddogion yr heddlu a thua 40 o wylwyr y glannau.
Dydi'r chwilio ddim yn digwydd yn ystod y nos bellach, dim ond yng ngolau dydd.
Ddydd Llun ymddangosodd Mark Bridger, 46 oed, o flaen Llys Ynadon Aberystwyth ar gyhuddiad o lofruddio April Jones.
Hefyd mae wedi ei gyhuddo o gipio plentyn ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon drwy gyswllt fideo ddydd Mercher.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio llinell ffôn arbennig, sef 0300 2000 333.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2012