April Jones: Goleuo cloc tref Machynlleth yn binc
- Cyhoeddwyd
Cafodd y cloc yng nghanol Machynlleth ei oleuo'n binc nos Lun dair wythnos union ar ôl i ferch 5 oed o'r dref ddiflannu.
Mae pinc wedi bod yn lliw amlwg wrth i bobl chwilio am April Jones ers iddi fynd ar goll ar Hydref 1.
Cafodd April ei gweld ddiwethaf yn mynd i mewn i gerbyd y noson honno.
Roedd hi'n chwarae tu allan i'w chartref ar stad Bryn-y-Gog tua 7pm.
Cannoedd o lusernau
Mae Mark Bridger, 46 oed, wedi'i gyhuddo o'i chipio a'i llofruddio ac o gael gwared â'i chorff gyda'r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd y cloc, sy'n 78 troedfedd (24 metr) o uchder, ei oleuo am 12 awr o 7pm nos Lun.
Ar gais teulu April Jones cafodd cannoedd o lusernau eu cynnau a balŵns pinc eu gollwng i'r awyr nos Lun Hydref 8 yr union amser y diflanodd hi wythnos ynghynt.
Roedd cannoedd o bobl wedi ymgasglu yn y dref i ymuno yn y cofio.
Cafodd llusernau a chanhwyllau eu cynnau hefyd mewn trefi fel Aberystwyth a Thywyn.
Dywedodd Maer Machynlleth, Gareth Jones: "Cyngor y dref sy'n berchen y cloc a phenderfynon ni gytuno i gais i oleuo'r cloc gyda lliw pinc i nodi tair wythnos ers i April ddiflannu
"Bydd y cloc yn cael ei oleuo am 12 awr.
"Mae pobl yn ceisio dychwelyd i ryw fath o fywyd arferol ond mae'n rhaid inni fod yn obeithiol er nad ydym yn gwybod beth fydd y canlyniad yn y pen draw."
Yn y cyfamser mae Heddlu Dyfed Powys sy'n dal i chwilio am yn atgoffa pobl i gysylltu gyda nhw gydag unrhyw wybodaeth yn hytrach na defnyddio gwefannau cymdeithasol.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2012