Y chwilio dwys am April Jones yn parhau yn ardal Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Search for April JonesFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu bod swyddogion yr un mor benderfynnol wrth chwilio am April Jones

Dywed yr heddlu bod y chwilio am y ferch fach bump oed, April Jones, yn ardal Machynlleth mor ddwys ag erioed gyda 150 o swyddogion yn rhan o'r ymgyrch.

Mae 17 o dimau yn chwilio ardal 23 milltir sgwâr o gwmpas y dref.

Aeth April ar goll bron i fis yn ôl.

Mae'r Arolygydd Gareth Thomas yn ymgynghorydd i'r ymgyrch, a dywedodd y byddai'r chwilio'n parhau tra bod yna drywydd i'w ddilyn.

Cafodd Mark Bridger, 46 oed, ei gyhuddo o herwgipio a llofruddio April.

Mae o hefyd wedi ei gyhuddo o guddio a chael gwared â'i chorff yn anghyfreithlon gyda'r bwriad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Y tro diwethaf i April gael ei gweld oedd wrth chwarae gyda ffrindiau ar stad o dai lle'r oedd yn byw, Bryn-y-Gog ar Hydref 1.

Mae timau o blismyn ac eraill wedi bod yn chwilio amdani bob dydd ers hynny.

Ffynhonnell y llun, Dyfed Powys Police
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd April Jones ei gweld y tro diwethaf y tu allan i'w chartref ym Machynlleth ar Hydref 1

Ardal anodd

Dywedodd yr Arolygydd Thomas: "Mae'n ardal anhygoel o anodd.

"Mae gennym ardaloedd mawr agored, ogofau, dyffrynnoedd serth a choedwigoedd trwchus.

"Mae gennym 17 o dimau heddlu yma heddiw (Iau) ac mae dwyster y chwilio yn parhau.

"Mewn gwirionedd mae gennym fwy o swyddogion yma nawr na phan ddechreuodd y chwilio."

Ychwanegodd bod bob ardal yn cael ei chwilio yn drylwyr a systematig er mwyn sicrhau lefel uchel o hyder yn y chwilio ymhob ardal.

Yn cynorthwyo'r heddlu mae arbenigwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru sydd wedi eu hyfforddi i weithio mewn lleoedd cyfyng a gyda rhaffau.

'Cwmwl du'

Mae diflaniad April yn dal ar frig meddyliau pobl yr ardal.

Dywedodd y Parchedig Kathleen Rogers o Eglwys San Pedr ym Machynlleth bod cwmwl du yn hongian dros y dref.

"Mae pobl wedi gorfod dychwelyd i'w gwaith bob dydd, ond bob bore mae rhywun yn deffro a meddwl 'efallai y down ni o hyd iddi heddiw'," meddai.

"Ond wedyn bob nos mae rhywun yn mynd i'r gwely gan feddwl na chafodd hi ei chanfod am ddiwrnod arall."

Roedd trefnwyr Eisteddfod Powys wedi bwriadu gohirio'r digwyddiad oherwydd diflaniad April, ond mae ei theulu wedi dweud eu bod am i'r eisteddfod gario 'mlaen.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor trefnu, John Price: "Rwy'n credu bod hyn yn fonheddig iawn i'r teulu fod am i bethau ddychwelyd i normalrwydd, ac mae'r dref gyfan yn teimlo drostyn nhw hefyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol