Diwedd ymgynghoriad iechyd yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi CadwaladrFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwrdd wedi bod yn ymgynghori efo'r cyhoedd ers wythnosau

Mae ymgynghoriad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ar newidiadau i'r gwasanaeth gofal yn y gogledd yn dod i ben.

Dydd Sul ydi dyddiad olaf yr ymgynghoriad ar y cynigion sy'n cynnwys cau ysbytai, cau gwasanaethau lleol ac unedau.

Ymhlith yr argymhellion mwyaf dadleuol yw'r un i gau Ysbyty Blaenau Ffestiniog ac Ysbyty'r Fflint a chau unedau mân anafiadau ym Mae Colwyn, Yr Wyddgrug, Y Waun, Llangollen a Rhuthun.

Dros yr wythnosau diwethaf mae'r bwrdd wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar draws y gogledd i drafod eu dogfen "Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid".

"Rydym wedi cael llawer o bobl yn cynnig eu barn, cymryd rhan mewn trafodaethau a chynnig dulliau amgen o weithredu," meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio'r Bwrdd Iechyd, Neil Bradshaw.

Gorymdeithiau

Fe fydd y bwrdd yn ystyried y sylwadau a gafwyd nawr cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae meddygon teulu, meddygon ysbyty, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill wedi cydweithio i ystyried sut mae modd gwneud gwasanaethau gofal iechyd yn well.

Cafodd cleifion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, awdurdodau lleol a llawer o bobl eraill gyfle hefyd i leisio barn.

Cafwyd gorymdeithiau mewn nifer o ardaloedd wrth i'r bwrdd gynnal cyfarfodydd.

Ym Mlaenau Ffestiniog dywedodd Gwilym Price, is-gadeirydd pwyllgor amddiffyn Ysbyty Goffa'r dref, ei fod yn derbyn bod angen arbed arian.

"Ond pam na fyddan nhw'n edrych o'r top i lawr i wneud toriadau?

"Mae gennym ni enghreifftiau gwych o wastraff ... ac mae'r hyn mae'r ysbyty yn ei gostio i'r bwrdd drwy ogledd Cymru yn ddim mwy na £800,000.

"Mae'n ysbyty sy'n 80 oed ac mae wedi rhoi gwasanaeth teilwng iawn i'r dref ers 1925."

Yn Y Fflint roedd torf sylweddol wedi ymgasglu i wrthwynebu'r cynlluniau.

"Mae agwedd y bwrdd iechyd wedi bod yn drahaus ...," meddai Jack Reece, cadeirydd y mudiad ymgyrchu.

"A dweud y gwir mae'r holl dre' wedi cael hen ddigon a phawb yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd heddiw."

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Mary Burrows, na all pethau aros fel y maen nhw nawr.

'Gofal arbenigol'

"Nid yw 'peidio â newid' yn opsiwn.

"Bwriad y cynigion rydym yn eu gwneud ar hyn o bryd yw newid y ffordd bydd gwasanaethau'n cael eu darparu a ble maen nhw'n cael eu darparu er mwyn bodloni safonau ansawdd.

"Ein nod yw gwella iechyd, nid ymestyn oes yn unig.

"Rydym yn credu y dylai gwasanaethau fod yn agos at le mae pobl yn byw pryd bynnag bo hynny'n ddiogel a phriodol.

"Pan fydd angen gofal mwy arbenigol, rhaid i ysbytai ddod yn ganolfannau rhagoriaeth fel bod y gofal gorau posibl ar gael pan fydd angen ac oddi wrth y bobl gywir."

Os bydd y Bwrdd yn penderfynu mynd rhagddo â'r cynigion, bydd newidiadau'n dechrau yn gynnar yn 2013 â'r nod yw gorffen y newidiadau erbyn 2015.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol