'Ailystyriwch y taliad i gyn-bennaeth BBC'

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Prydain wedi gofyn i'r BBC ail-ystyried eu penderfyniad i roi taliad o £450,000 i gyn-bennaeth y gorfforaeth.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Maria Miller, fod "gwobr am fethiant" yn amhriodol.

Roedd Cadeirydd y BBC, yr Arglwydd Patten, wedi dweud bod y taliad yn "haeddiannol".

Dywedodd y Swyddfa Archwilio y bydden nhw'n edrych ar y taliad yn fanwl.

Ddydd Sadwrn ymddiswyddodd George Entwistle, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, ar ôl i raglen Newsnight gysylltu ar gam gyn-wleidydd blaenllaw gyda cham-drin rhywiol mewn cartrefi plant yn y gogledd yn y saithdegau a'r wythdegau.

Y Cyfarwyddwr Cyffedinol dros dro yw Tim Davie.

Mae ymchwiliad mewnol Ken MacQuarrie, Cyfarwyddwr BBC Yr Alban, i raglen Newsnight wedi casglu bod "gwendidau annerbyniol."

'Ddim yn glir'

Dywedodd y gorfforaeth y byddai adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno wedi i gamau disgyblu ddod i ben.

"Doedd hi ddim yn glir i aelodau'r tîm pwy yn olygyddol allai gymeradwyo'r eitem yn derfynol," meddai'r ymchwiliad.

Brynhawn Llun daeth i'r amlwg fod Cyngor Sir y Fflint wedi dod o hyd yn eu harchif i Adroddiad Jillings.

Cafodd yr adroddiad am gam-drin mewn cartrefi gofal yn y saithdegau a'r wythdegau ei ysgrifennu yn 1996 ond ni chafodd ei gyhoeddi.

Y rheswm oedd bod yswirwyr Cyngor Clwyd yn credu y byddai rhywun neu rywrai yn dwyn achos yn eu herbyn.

Cyngor cyfreithiol

Mae chwe chyngor y gogledd yn ceisio cyngor cyfreithiol a ddylid ei ryddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Roedd Mr Entwistle wedi bod yn delio gyda'r ymateb wedi i adroddiad rhaglen Newsnight ar Dachwedd 2 gysylltu ar gam y cyn-wleidydd Ceidwadol, Yr Arglwydd McAlpine, ag achosion cam-drin mewn cartrefi gofal.

Chafodd Yr Arglwydd McAlpine ddim ei enwi yn yr adroddiad.

Wythnos yn ddiweddarach dywedodd Steve Messham - a wnaeth yr honiadau gwreiddiol - ei fod wedi cam-adnabod y gwleidydd ac ymddiheurodd yn ddiffuant.

Cafodd Mr Entwistle ei feirniadu am nad oedd yn gwybod am gynnwys y rhaglen tan ar ôl iddi gael ei darlledu ac oherwydd nad oedd yn ymwybodol o adroddiad papur newydd oedd yn cyhoeddi'r cam-adnabod.

Roedd yn ei swydd am 54 diwrnod.

Ddydd Llun camodd Cyfarwyddwr Newyddion y BBC, Helen Boaden, a'i dirprwy, Stephen Mitchell o'r neilltu wrth i Nick Pollard ymchwilio i reolaeth Newsnight yng nghyd-destun peidio â darlledu adroddiad am honiadau cam-drin rhywiol y cyn-gyflwynydd teledu Jimmy Savile.