Cymdeithas yr Iaith: Asesiadau effaith iaith yn ‘jôc’
- Cyhoeddwyd
Llai nag un o bob 3,000 o geisiadau cynllunio sy'n cael eu hasesu i weld pa effaith maen nhw'n eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn ôl gwaith ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Daeth y wybodaeth i law wedi cais rhyddid gwybodaeth gan y Gymdeithas.
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru maen nhw'n adolygu'r polisi ar hyn o bryd.
Yn ôl y Gymdeithas, tri awdurdod cynllunio lleol o'r 22 cyngor sir a'r tri pharc cenedlaethol yng Nghymru, sydd wedi cynnal asesiad effaith datblygiadau ar y Gymraeg dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf.
'Bach o jôc'
Dywed y Gymdeithas mai 16 asesiad allan o bron i 50,000 o geisiadau cynllunio a wnaed, sy'n 0.03%.
Mae'r Gymdeithas yn honni na chafodd yr un asesiad effaith iaith gan gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion na Chonwy rhwng Ebrill 2010 ac Ebrill 2012.
Daw'r newyddion ar drothwy cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011 ar Ragfyr 11 a fydd yn dangos faint o siaradwyr Cymraeg sydd ym mhob sir yng Nghymru.
Wrth ymateb i'r canlyniadau, dywedodd Cen Llwyd, Is-gadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'n ymddangos fel bod y system yn bach o jôc.
"Beth yw diben canllawiau'r Llywodraeth os nad ydynt yn cael eu gweithredu?
"Os yw'r Gymraeg i fyw yna rhaid i'r awdurdodau gymryd y mater o ddifrif o'r lleol lan.
'Syndod mawr'
"Mae ganddyn nhw un arf yn eu meddiant.
"Ond mae'n amlwg nad ydyn nhw'n barod i'w ddefnyddio.
"Mae'n syndod mawr nad ydym wedi gweld defnydd llawer mwy o asesiadau effaith iaith yn nifer o siroedd lle mae cymunedau Cymraeg yn wynebu heriau mawr."
Ers y flwyddyn 2000, mae Llywodraeth Cymru wedi annog awdurdodau cynllunio i ystyried effaith iaith ceisiadau cynllunio trwy ei nodyn cynghorol technegol, TAN 20, a pholisi cynllunio Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Wedi cyfnod ymgynghori dwys, rydym yn arolygu ein nodyn cynghorol technegol, TAN 20 ar hyn o bryd.
"Rydym yn ddiolchgar i bawb wnaeth gynnig eu sylwadau ynghylch y fersiwn gynharach o'r nodyn cyngor technegol (TAN) ac rydym yn nodi sylwadau diweddaraf Cymdeithas yr iaith Gymraeg.
"Oherwydd bod canlyniadau Cyfrifiad 2011 ar fin cael eu cyhoeddi bydd y ffordd ymlaen o ran TAN yn cael ei hamlinellu yn y flwyddyn newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012