Diweddariad gan yr heddlu ynglŷn â diflaniad April Jones

  • Cyhoeddwyd
April JonesFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na 10 wythnos ers i April Jones ddiflannu o'i chartref ym Machynlleth

Fe fydd yr heddlu yn cyhoeddi'r diweddaraf am y chwilio am y ferch fach bump oed April Jones 10 wythnos wedi iddi ddiflannu.

Cafodd April ei gweld am y tro diwethaf ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1, ac mae dyn wedi cael ei gyhuddo o'i llofruddio a'i herwgipio.

Er gwaethaf ymgyrch enfawr yn yr ardal, does neb wedi dod o hyd iddi hi.

Bydd yr Uwch-Arolygydd Ian John, sy'n arwain yr ymchwiliad, yn cynnal cynhadledd newyddon ddydd Mercher, ac yn darllen datganiad gan rieni April.

Daw'r gynhadledd wrth i gwmni Google gyhoeddi bod enw April ymysg y testunau y bu'r mwyaf o chwilio amdano ar eu gwefan yn y DU yn ystod 2012 - roedd yn bumed ar y rhestr.

Bydd y gynhadledd newyddion yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi.

Mae diflaniad April wedi ennyn cefnogaeth ar draws y DU a'r byd, gyda channoedd o wirfoddolwyr yn dod i'r ardal i gynorthwyo gyda'r chwilio amdani.

Seren binc

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gafodd ymateb y gymuned ym Machynlleth ei gydnabod gan grŵp y Co-operative gyda gwobr Robert Owen am gyfraniad neilltuol.

Yr wythnos ddiwethaf, cododd ocsiwn i godi arian at Gronfa April Jones dros £4,000 gyda chyfraniadau gan Catherine Zeta Jones a Bonnie Tyler.

Mae'r gronfa bellach wedi codi £50,000.

Dros y Nadolig, mae seren binc - hoff liw April - wedi cael ei gosod fel rhan o oleuadau Nadolig tref Machynlleth.

Bydd y seren yn aros ymlaen yn ystod oriau'r nos pan fydd gweddill y goleuadau'n cael eu diffodd.

Mae Mark Bridger, 47 oed, wedi cael ei gadw yn y ddalfa wrth aros i sefyll ei brawf ar gyhuddiadau o lofruddiaeth, cipio plentyn a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.