Llwybr yn werth £16m i'r economi

  • Cyhoeddwyd
Pen y Gogarth gan Stephen CravenFfynhonnell y llun, Stephen Craven
Disgrifiad o’r llun,

Agorwyd Llwybr Arfordir Cymru yn swyddogol ym mis Mai'r llynedd

Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi rhoi hwb o £16 miliwn i economi Cymru o fewn misoedd i gael ei agor yn llawn, yn ôl ymchwil newydd.

Dywedodd Uned Ymchwil Economaidd Cymru bod y llwybr wedi denu 2.89 o ymweliadau, ac er i'r llwybr ond agor yn swyddogol ym mis Mai 2012, mae'r ymchwil yn ystyried y cyfnod rhwng Medi 2011 - pan oedd llawer o'r prif lwybrau eisoes ar agor - ac Awst 2012.

Mae'r ymchwil yn awgrymu bod 2.89 o bobl wedi defnyddio Llwybr Arfordir Cymru dros y cyfnod yna, ac yn amcangyfrif bod y llwybr wedi denu 1.6 miliwn o ymwelwyr dydd, ac 835,000 o arosiadau dros nos.

Buddsoddiad pellach

Roedd Gweinidog Amgylchedd Cymru, John Griffiths, yn croesawu'r adroddiad gan ddweud:

"Mae'r adroddiad yma yn dangos bod y llwybr yn denu miloedd ar filoedd o ymwelwyr cyn iddo agor yn ffurfiol, gan roi hwb economaidd i drefi arfordir Cymru.

"Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod y llwybr wedi arwain at £16.1 miliwn o Werth Ychwanegol Crynswth (GVA) rhwng Medi 2011 ac Awst 2012.

"Gan fod y buddion yn cael eu rhannu rhwng ystod o sectorau fel manwerthu, lletygarwch a thrafnidiaeth rydym hefyd yn gwybod nad dim ond busnesau twristiaeth traddodiadol sy'n elwa o'r adnodd yma.

"Rwy'n falch felly o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn rhaglen o welliannau ar yr arfordir dros y ddwy flynedd nesaf fel rhan o'n gwaith i sicrhau'r profiad gorau posib i ymwelwyr i Lwybr Arfordir Cymru."

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.15 miliwn yn 2013/14.

Mae hyn ar ben buddsoddiad o hyd at £2m y flwyddyn rhwng 2007 a 2013 arweiniodd at agor y llwybr 870 milltir o hyd sy'n rhedeg o amgylch arfordir Cymru gyfan gyda chymorth £3.9m o arian Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop.