Owain Tudur Jones wedi ymuno â charfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Owain Tudur JonesFfynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain Tudur Jones yn chwarae i Inverness ar hyn o bryd

Mae Owain Tudur Jones wedi cael ei alw i ymuno â charfan Cymru.

Bydd yn rhan o'r garfan i wynebu Croatia nos Fawrth yn Stadiwm Liberty, Abertawe.

Mae'n cymryd lle Aaron Ramsey sydd wedi ei wahardd ar ôl derbyn cerdyn coch yn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban ym Mharc Hampden, Glasgow, nos Wener.

Mae Cymru yn drydydd yn y tabl tu ôl i Wlad Belg a Croatia.

Mae Jones, sy'n chwarae yn Yr Alban gyda Inverness Caledonian Thistle, wedi chwarae chwe gwaith dros Gymru.

Yn erbyn Luxembourg bum mlynedd yn ôl, pan enillodd Gymru 2-0, yr enillodd ei gap cyntaf.

Undod

Dywedodd capten Cymru, Ashley Williams, y bydd cymeriad y tîm o fudd iddyn nhw ar gyfer y gêm nos Wener.

"Mae'r fuddugoliaeth nos Wener yn tanlinellu'r undod sydd 'na o fewn y garfan," meddai.

"Mae pawb yn dod ymlaen yn dda ac ar y cae rydan ni yno i'n gilydd."

Mae disgwyl y bydd Gareth Bale yn chwarae nos Fawrth er iddo beidio chwarae yn ail hanner y gêm nos Wener.

Bu'n hyfforddi gyda'r garfan ddydd Sul ac mae disgwyl ei fod wedi gwella o firws ac anaf i'w ffêr.

Colli oedd hanes Cymru o 2-0 yn erbyn Croatia oddi-cartref ym mis Hydref.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol