Caerdydd yn paratoi am barti i ddathlu'r Bencampwriaeth

  • Cyhoeddwyd
Dinas Caerdydd yn dathlu yn BurnleyFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd yr Adar Gleision y Bencampwriaeth yn dilyn gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Burnley ddydd Sadwrn

Mae disgwyl miloedd o gefnogwyr Yr Adar Gleision ymgasglu yng nghanol Caerdydd i ddathlu camp y pêl-droedwyr enillodd y Bencampwriaeth dros y penwythnos.

Bydd chwaraewyr Clwb Pêl Droed Dinas Caerdydd a'r rheolwr Malky Mackay yn cynnal gorymdaith mewn bws agored o ganol y ddinas i Fae Caerdydd ar Ddydd Sul Mai 5.

Enillodd Caerdydd ddyrchafiad i'r brif adran y tymor nesaf ar ôl gêm gyfartal o flaen dros 26,000 o ffyddloniaid yn erbyn Charlton nos Fawrth diwethaf.

Ac enillodd yr Adar Gleision y Bencampwriaeth yn dilyn gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Burnley ddydd Sadwrn.

Cyflwyno'r tlws

Bydd tlws y Bencampwriaeth yn cael ei gyflwyno i'r tîm cyn eu gêm yn erbyn Bolton am 3pm yn Stadiwm Caerdydd ddydd Sadwrn nesaf.

Dywedodd arweinydd cyngor Caerdydd, Heather Joyce, y dylai'r clwb ddathlu eu camp gan gynnal dathliad mawr yn dilyn "wythnos anhygoel".

"Bydd yr orymdaith yn rhoi cyfle i bawb i weld y tîm a dangos eu gwerthfawrogiad," meddai.

"Fel cyngor rydym wedi ymrwymo i wneud popeth i helpu cefnogi'r clwb a chodi ymwybyddiaeth y ddinas ar draws y byd."

Bydd yr orymdaith yn cael ei gynnal yn dilyn gêm olaf yr Adar Gleision yn Hull ar Fai 4.

Yn y cyfamser mai Caerdydd wedi apelio i'w cefnogwyr beidio dod ar y cae yn dilyn eu gêm gartref olaf y tymor yn erbyn Bolton ddydd Sadwrn i sicrhau bod y tîm yn derbyn tlws y Bencampwriaeth heb unrhyw oedi.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol