Symud llwybr arfordirol yn agosach at y môr

  • Cyhoeddwyd
Bae BarafundleFfynhonnell y llun, Llwybr Arfordir Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llwybr yn cynnig amrywiaeth o olygfeydd, fel yr un yma o draethau Sir Benfro

Mae 'na gynlluniau gwerth £1.15 miliwn i symud rhannau o Lwybr Arfordir Cymru fel bod cerddwyr yn gallu bod mor agos i'r môr â phosib drwy gydol eu taith.

Hwn yw'r llwybr arfordirol cyntaf yn y byd sydd wedi'i leoli'n llwyr mewn un wlad ac mae'r daith yn ymestyn 870 o filltiroedd (1,400 cilometr) rhwng Cas-gwent yn Sir Fynwy a'r Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint.

Ers iddo gael ei agor flwyddyn yn ôl mae 'na amcangyfrif fod 2.8 miliwn o bobl wedi'i ddefnyddio.

"Mae 'na gynlluniau a thrafodaethau gyda pherchnogion tir i adleoli'r llwybr fel ei fod yn agosach at yr arfordir," meddai Angela Charlton, cyfarwyddwraig Cerddwyr Cymru.

"Mae 'na arian wedi'i neilltuo i wella'r llwybr a'r cysylltiadau - mae 'na un man ar y daith ble mae 'na arwydd ar gyfer llwybr yr arfordir mewn coedwig.

"Er bod Coedwig Margam yn hyfryd, dyw e ddim ar yr arfordir."

£1.15m

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cyfrannu £1.15 miliwn tuag at "wella lleoliad Llwybr yr Arfordir ble mae hynny'n ymarferol ac i sicrhau fod y llwybr yn un safonol ar ei hyd."

Yn ôl Elfyn Jones, o Gyngor Mynydda Prydain - sy'n cynrychioli cerddwyr, mynyddwyr a dringwyr - maent yn "cynnal trafodaethau parhaol gyda'r llywodraeth a Chyfoeth Naturiol Cymru i wella'r llwybr".

Disgrifiodd Mr Jones y llwybr fel "caffaeliad i Gymru" ond soniodd hefyd am "rannau mewndirol" o hyd at ddwy filltir mewn ardaloedd fel Penrhyn Llŷn yng Ngwynedd a gorllewin Môn.

Dywedodd fod peth o'r tir yn berchen i ystadau preifat ac y byddai'n hoffi gweld awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn defnyddio'u grymoedd i greu llwybrau i'r cyhoedd.

"Mae 'na rai lleoedd ble mae'n rhaid i'r llwybr fynd i mewn i'r tir, gan gynnwys lle bo moryd fel y Dyfi neu oherwydd topograffeg y tir, fel gwaith dur Port Talbot."

Mae'r llwybr yn cynnig amrywiaeth o draethau a chreigiau, yn ogystal â golygfeydd diwydiannol fel yng Nghasnewydd a Phort Talbot.

"Mae'r olygfa ddiwydiannol yn rhan o'n hanes a'n diwylliant ac mae'n gwneud y daith yn fwy diddorol," meddai Mrs Charlton.

"Mae'r llwybr yn drawiadol ac yn amrywiol, mae'n adrodd hanes Cymru a'r hyn sy'n ein gwneud yn genedl."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol