Betsan Powys i arwain BBC Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi mai Betsan Powys sydd wedi'i phenodi yn olygydd rhaglenni Radio Cymru.
Bydd Betsan Powys yn gweithio'n agos gyda phennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Sian Gwynedd, a hi fydd yn gyfrifol am gomisiynu a goruchwylio holl raglenni cyffredinol Radio Cymru.
Daw'r penodiad ar adeg pan y mae ffigyrau'n dangos bod llai nac erioed yn gwrando ar BBC Radio Cymru, ac yn ystod sgwrs genedlaethol ynglŷn â'r orsaf a gyhoeddwyd gan gyfarwyddwr BBC Cymru Rhodri Talfan Davies ym mis Ebrill.
Pwrpas y sgwrs yw sicrhau y bydd Radio Cymru yn parhau'n wasanaeth llwyddiannus, uchelgeisiol a bywiog am flynyddoedd i ddod.
Mae Betsan Powys wedi bod yn olygydd gwleidyddol BBC Cymru Wales ers 2006, a chyn hynny bu'n gweithio ar raglenni Panorama, Week In Week Out a'r Byd ar Bedwar.
Hi oedd gohebydd celfyddydau a chyfryngau BBC Cymru a chyflwynydd Mastermind Cymru ar S4C.
Dywedodd Sian Gwynedd, pennaeth rhaglenni a gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru: "Mae'n gyfnod heriol i Radio Cymru ond rydw i'n ffyddiog bod gan Betsan y sgiliau a'r profiad i ymgymryd yn egnïol â'r sialensiau sy'n wynebu'r orsaf.
"Rydw i'n edrych ymlaen at ei gweld hi'n rhoi ei stamp ei hun ar y gwahanol raglenni a sicrhau bod y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i'r gynulleidfa yn berthnasol ac o'r safon uchaf."
Dywedodd Betsan Powys ei bod yn edrych ymlaen at gymryd yr awenau.
"Mae arwain Radio Cymru yn mynd â fi i gyfeiriad newydd ar ôl cyfnod cynhyrfus ym myd gwleidyddiaeth Cymru," meddai.
"Rwy'n edrych ymlaen i ddod i 'nabod a chydweithio â staff Radio Cymru - tîm talentog a chreadigol sydd wedi dangos cymaint o ymroddiad i'r orsaf. Byddaf yn gwrando gyda diddordeb ar 'Y Sgwrs' a rwy'n gyffrous iawn am fy mod i nawr yn cael y cyfle i arwain y gwasanaeth i ddyfodol newydd."
Bydd Betsan Powys yn dechrau ei swydd newydd ar Gorffennaf 1.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2013
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2012